Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Hysbysiad Gwella wedi'i gyflwyno i decawê ym Mhorthcawl

Mae Gusto Grill House ym Mhorthcawl wedi derbyn Hysbysiad Gwella gan swyddogion gorfodi ar ôl darganfod nad oedd staff yn gwisgo gorchuddion wyneb.

Ymwelodd swyddogion Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir â'r siop decawê ar John Street, ddydd Iau 26 Tachwedd, ar ôl nodi fod pobl wedi gweld nad oedd staff yn gwisgo gorchuddion wyneb ar dri achlysur blaenorol.

Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, aelod cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd â phortffolio sy'n cynnwys y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: "Os bydd y siop decawê yn gwneud gwelliannau hanfodol o fewn 48 awr ar ôl cyflwyno'r Hysbysiad Gwella Mangre, bydd yr hysbysiad yn cael ei godi.

"Mae'n bwysig fod y bobl hynny sy'n gyfrifol am yr eiddo yn cymryd y mesurau cyfrifol i sicrhau eu bod nhw'n bodloni rheoliadau Llywodraeth Cymru i leihau lledaeniad Covid-19.”

Mae Hysbysiadau Gwella Mangre yn pennu'r mesurau y mae angen eu cymryd i fodloni'r rheoliadau o fewn terfyn amser penodol, 48 awr fel arfer. Os bydd y busnes yn methu â chydymffurfio, gall swyddogion gorfodi gyhoeddi Hysbysiad Cau Mangre, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r safle, neu ran ohono, gael ei gau am hyd at 14 diwrnod.

Mewn rhai amgylchiadau, gall swyddogion gorfodi gau'r safle ar unwaith heb gyflwyno hysbysiad gwella, ond dim ond pan fyddai rheoliadau wedi'u torri'n ddifrifol y byddai hyn yn digwydd.

Chwilio A i Y