Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Hwb gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd i Gwm Garw

Mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar hwb gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd a fydd ar gael i deuluoedd yng Nghwm Garw ei ddefnyddio am genedlaethau i ddod.

Yn rhan o fuddsoddiad gwerth £2.8m mewn gofal plant cyfrwng Cymraeg sydd hefyd yn sefydlu cyfleusterau ym Melin Ifan Ddu, Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, mae hwb Betws yn cael ei adeiladu ar hen safle'r Clwb Bechgyn a Genethod.

Mae'r gwaith, y bu’n rhaid ei ohirio ar ôl i arolwg ecolegol ddangos bod adar yn nythu ar y safle, yn cael ei gynnal gan Stafford Construction a disgwylir y bydd yn cael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2022.

Wedi’i ddylunio i wasanaethu Cwm Garw ac ardal y cymoedd cyfagos, bydd yr hwb yn darparu 16 o leoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg yn ogystal â chwe lle ar gyfer plant ifanc hyd at ddwy oed. Wrth i'r ddarpariaeth ddatblygu, bydd yn cynnig darpariaeth gofal plant tu hwnt i’r ysgol a fydd yn gweithredu am 51 neu 52 wythnos o’r flwyddyn.

Bydd yr adeilad un llawr yn cynnwys gofal dydd llawn o ddydd Llun i Gwener a bydd yn cynnwys gofod chwarae newydd, ystafelloedd tawel, cyfleusterau storio, swyddfeydd a maes parcio gyda lle ar gyfer saith cerbyd. Bydd yr ardal i'r tu blaen ac ar ochr yr adeilad yn cael ei thirlunio hefyd, ac yn cynnwys cyfleusterau chwarae meddal a chanopi a fydd yn rhoi cysgod a lloches i blant a staff.

Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol: "Bydd yr hwb newydd hwn yn sefydlu cyfleuster newydd sbon danlli a fydd ar gael i deuluoedd ei ddefnyddio yng Nghwm Garw sydd eisiau i'w plant dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Gyda chynlluniau ar waith i adeiladu hybiau ychwanegol ym Melin Ifan Ddu, Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, mae hefyd yn dangos ymrwymiad parhaus Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynyddu nifer o siaradwyr Cymraeg y fwrdeistref sirol, ac i annog y Gymraeg i ffynnu a thyfu."

Mae ein Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif sy'n mynd rhagddi yn parhau i gynnig amgylcheddau dysgu o'r radd flaenaf, ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i ddatblygu rhagor o gyfleusterau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y fwrdeistref sirol.

Bydd cyfleusterau newydd a modern fel hwb gofal plant cyfrwng Cymraeg Betws yn ein helpu ni i ddarparu plant Garw â'r dechrau gorau posibl mewn bywyd, ac mae ein diolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn ein helpu ni i gyrraedd y foment dyngedfennol hon – o Lywodraeth Cymru a'r cyngor cymuned lleol i'n contractwyr, tîm y prosiect a'r tîm dylunio, a sefydliadau fel Menter Bro Ogwr a'r Grŵp Llywio'r Gymraeg.

Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd yn cynnig cyfleuster arbennig i bobl Cwm Garw, a bydd yn un o sawl hwb o'r fath a fydd yn cael ei sefydlu ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros y rhai blynyddoedd nesaf.

Dirprwy Arweinydd Hywel Williams
(O'r chwith i'r dde) Amanda Evans o Menter Bro Ogwr, Huw Irranca Davies AS, yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol Dhanisha Patel, ac Arweinydd y Cyngor Huw David yn dathlu dechrau'r gwaith ar yr hwb gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd ym Metws.

Chwilio A i Y