Hwb diogelu Amlasiantaethol newydd wedi'i lansio i ddiogelu pobl sydd fwyaf agored i niwed ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 30 Hydref 2018
Mae diogelwch y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael hwb sylweddol gyda lansiad Hwb Diogelu Amlasiantaethol Pen-y-bont ar Ogwr (MASH). Daeth y gwasanaeth newydd integredig yn llawn weithredol ym mis Gorffennaf a hwn yw'r trydydd hwb o'i fath yn Ne Cymru.
Wedi'i leoli mewn swyddfa gynllun agored yn Ravens Court, Pen-y-bont ar Ogwr, mae dros 80 o weithwyr proffesiynol gan gynnwys swyddogion yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol, gweithiwr cyswllt iechyd meddwl plant a’r glasoed, ymwelydd iechyd, a swyddogion cymorth prawf, o sefydliadau megis Heddlu De Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, yn gweithio ochr yn ochr i hel a rhannu gwybodaeth i alluogi asesiadau risg mwy manwl gywir i unigolion a llywio'r ymateb cydgysylltiedig mwyaf priodol.
Nod MASH Pen-y-bont ar Ogwr yw:
- Rhannu gwybodaeth yn amserol
- Gwneud penderfyniadau ar y cyd
- Ymyrraeth gydgysylltiedig
Mae agoriad Hwb Diogelu Amlasiantaethol Pen-y-bont ar Ogwr yn ddatblygiad sylweddol dros ben. Mae'n ychwanegiad pwysig at drefniadau diogelu presennol y Fwrdeistref Sirol ac yn rhoi cyfle da i roi'r cymorth angenrheidiol i blant, oedolion a'u teuluoedd pan fyddant ei angen fwyaf.
Bydd bod â'r gallu i helpu pobl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddilyn bywydau mwy diogel bob amser yn flaenoriaeth i'r holl bartneriaid sy'n gweithio gyda'i gilydd yn MASH Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r cyfleuster newydd yn adeiladu ar ein hen hanes o weithio mewn partneriaeth a chefnogaeth ein prif bartneriaid megis yr heddlu, staff iechyd, y gwasanaeth prawf a gwasanaethau tai.
Bydd yn darparu ymateb sydyn ac effeithlon i ymdrin â phryderon diogelu, gan sicrhau bod y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn derbyn gofal ac y gofelir amdanynt. Mae bod â’r gallu i helpu pobl yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr i ddilyn bywydau mwy diogel yn flaenoriaeth i’r holl bartneriaid yn MASH Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David, a agorodd y cyfleuster newydd
Y staff o fewn MASH yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer eu cydweithwyr sy'n delio â chwsmeriaid ac aelodau o'r cyhoedd. Cymerir atgyfeiriadau diogelu gan unrhyw weithiwr proffesiynol, aelod o deulu neu aelod o'r cyhoedd sydd â phryder diogelwch.
Mae agor Hwb Diogelu Amlasiantaethol Pen-y-bont ar Ogwr (MASH) yn ddatblygiad cyffrous a sylweddol sy'n diogelu pobl sy'n agored i niwed ledled ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hynny’n flaenoriaeth bwysig, lle na allwn ni gyflawni oni bai ein bod yn gweithio gyda’n gilydd, oherwydd mae'r materion a'r heriau a wynebwn yn llawer mwy na gwaith unrhyw sefydliad unigol. Bydd y dull integredig newydd yn galluogi’r heddlu ac asiantaethau eraill i weithio gyda'i gilydd yn fwy effeithlon ac effeithiol i fynd i'r afael â phryderon diogelu a sicrhau bod holl drigolion sy'n agored i niwed yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu diogelu cystal ag y bo modd. Mae'n rhoi dioddefwyr a dioddefwyr posibl wrth wraidd ein gwaith.
Mae cyd-leoliad staff yn galluogi asiantaethau i rannu gwybodaeth, gwella asesiadau, rheoli risgiau yn effeithiol, a gwneud mwy o benderfyniadau amserol i ddiogelu plant, oedolion a dioddefwyr cam-drin domestig.
Gall asiantaethau o fewn Hwb Diogelu Amlasiantaethol a’r tu allan bellach gymharu gwybodaeth gan eu gwahanol ffynonellau ac adeiladu darlun cliriach o amgylchiadau'r achos a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r plentyn, oedolyn neu bryder ynghylch risg uchel o gam-drin domestig. O ganlyniad i benderfyniadau mwy gwybodus, gellir cymryd camau yn brydlon ac mae cefnogaeth hanfodol yn cael ei chyfeirio at yr achosion mwyaf taer
Dywedodd Comisiynydd Heddlu De Cymru a Throseddu Alun Michael
Cysylltir â'r Hwb Diogelu Amlasiantaethol 60 gwaith bob dydd ar gyfartaledd gan weithwyr proffesiynol sy'n pryderu am ddiogelwch plant ac oedolion sy'n agored i niwed yn y Fwrdeistref Sirol. Ewch i wefan MASH pen-y-bont ar Ogwr am fwy o wybodaeth.