Hwb ariannu gwerth miliynau i Neuadd y Dref, Maesteg
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 27 Awst 2019
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi cael hwb fawr o ran ariannu’r cynllun gwerth £6 miliwn i adfywio Neuadd y Dref, Maesteg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo £3.5m i’r prosiect o’i rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, Tasglu’r Cymoedd a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Gydag arian ychwanegol wedi’i sicrhau gan y cyngor, Awen, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, Cyngor Tref Maesteg ac Ymddiriedolaeth Davies, gall gwaith ddechrau’n fuan ar yr adeilad eiconig 138 mlwydd oed. Caiff ei adnewyddu gyda chyfleusterau newydd modern ar gyfer y celfyddydau a diwylliant.
Mae'r cynlluniau ar gyfer Neuadd y Dref ym Maesteg yn cynnwys troi'r hen farchnad dan do ar y llawr isaf yn llyfrgell newydd ochr yn ochr â chanolfan treftadaeth a gwirfoddoli, caffi a mannau gwaith.
Caiff canolfan celfyddydau perfformio aml-swyddogaeth ei chreu ar y llawr cyntaf, a bydd yn cynnwys prif neuadd, llwyfan wedi’i adnewyddu, ystafelloedd newid, bar a theatr stiwdio / sinema gymunedol lai, fwy cartrefol. Bydd y mannau eistedd ar y balconi yn cael eu hadnewyddu, a bydd y lloriau uchaf ac isaf yn cael eu cysylltu ag atriwm gwydrog modern a chyntedd, fel bod yr adeilad drwyddo draw yn hygyrch.
Bydd toiledau a ‘mannau newid’ cwbl hygyrch yn cael eu darparu, a bydd y safleoedd bws y tu allan i’r adeilad yn cael eu hymestyn.
Bydd cais am arian ychwanegol yn cael ei gyflwyno’n gynnar yn 2020 i sicrhau bod y dodrefn a’r ffitiadau diweddaraf yn cael eu gosod yn yr adeilad cyn iddo ailagor.
Mae hyn yn newyddion ardderchog, ac rwyf wrth fy modd o weld bod holl waith caled y cyngor, Awen a’n partneriaid eraill wedi talu ffordd. Mae’r buddsoddiad sylweddol gwerth £6m hwn yn mynd i sicrhau dyfodol Neuadd y Dref, Maesteg, gan sicrhau y gall aros ar agor er budd y gymuned gyfan, a bydd yn darparu cyfleusterau lleol hollol newydd i amrywiaeth eang o glybiau, grwpiau a mudiadau lleol.
Mae’r cadarnhad ariannu yn golygu y gall gwaith atgyweirio hanfodol gael ei wneud nawr ochr yn ochr â’r gwelliannau sydd wedi’u cynllunio, ac y gall yr adeilad rhestredig Gradd II hwn fwynhau cyfnod newydd yn ei hanes fel canolbwynt cymuned y cymoedd.
Hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau, grwpiau ac unigolion sydd wedi ein helpu i sicrhau’r llwyddiant hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at ddatgelu rhagor o fanylion am pryd y bydd y prosiect yn dechrau.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg ac Adfywio
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Mae’r ymddiriedolwyr a phawb yn Awen wrth eu bodd â’r newyddion hyn. Mae darn mawr o’r jig-so ariannu wedi disgyn i’w le ac rydym gam enfawr yn nes at wireddu’r prosiect anhygoel hwn. Nid yw’n ddim mwy nag y mae’r gymuned a defnyddwyr y Neuadd hon yn ei haeddu.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn: “Mae'r adeilad hardd hwn, sy’n bwysig yn bensaernïol ac sydd wedi gwasanaethu’r gymuned cyhyd, yn cael estyniad einioes, ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn ffynnu a thyfu.
“Bydd yn galluogi pobl leol i ddod ynghyd ac yn gweithredu fel calon gymdeithasol cymuned Maesteg. Yn ogystal ag amryw o adnoddau arloesol, bydd yn darparu llefydd ar gyfer mwy o gyfleoedd dysgu a sgiliau, law yn llaw â nifer o bartneriaid.”
Mae amserlen ar gyfer y prosiect yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd ar ei gwedd derfynol - gwyliwch am ragor o fanylion yn fuan.