Helpwch i godi arian ar gyfer gardd synhwyrau i bobl â dementia
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 18 Rhagfyr 2019
Mae Canolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr yn codi arian i greu gardd synhwyrau gymunedol newydd i bobl â dementia, anableddau corfforol neu anableddau dysgu.
Mae ymchwil yn dangos bod symud yn rhydd a bod yn yr awyr agored yn gallu helpu i leihau tensiwn a gorbryder ymysg pobl â dementia, felly mae'r ganolfan eisiau datblygu gofod pwrpasol lle gall pobl fynd am dro a gwneud ymarfer corff.
I bobl sydd ag anghenion cymhleth, gallai cael gardd sy’n addas ar gyfer eu hanghenion fod yn rhan hanfodol o’r cymorth maen nhw’n ei gael, drwy roi cyfle unigryw iddyn nhw ddefnyddio eu synhwyrau cyffwrdd, teimlo ac arogli.
Bydd yr ardd synhwyrau yn gwella safon y gofal dementia sydd eisoes yn cael ei ddarparu yn y ganolfan adnoddau ac rwy’n gobeithio yn bydd pobl yn helpu i wneud hynny’n realiti drwy helpu staff y ganolfan i godi arian.
Dywedodd y Cynghorydd Phil White, Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
I gefnogi'r ymdrech i godi arian, gall trigolion yr ardal gyfrannu dillad, esgidiau a llieiniau drwy eu rhoi mewn bag du a’u rhoi yn y banc ailgylchu newydd sbon gyferbyn â Lidl ym Mharc Adwerthu Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y banc ailgylchu newydd yn cael ei wagio’n wythnosol a bydd pwysau’r eitemau sy’n cael eu cyfrannu yn cael ei gyfnewid am arian i fynd tuag at ddatblygu'r ardd synhwyrau newydd.
Gall trigolion hefyd godi arian drwy ddefnyddio ffôn symudol neu dabled i siopa ar-lein ar ap o'r enw ‘easyfundraising’. Mae miloedd o siopau ar-lein yn rhan o'r cynllun, gan gynnwys Tesco, Asda, Amazon, eBay a Booking.com, a bydd canran o bob pryniant yn mynd i Ganolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr - gallwch gael rhagor o wybodaeth a llwytho'r ap i lawr yma.