Helpu pobl ifanc i aros allan o drwbl
Poster information
Posted on: Dydd Llun 26 Gorffennaf 2021
Mae prosiect ar y gweill ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr i dargedu ymddygiad gwrth-gymdeithasol ac annog plant a phobl ifanc i gadw'n glir o unrhyw drwbl.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Heddlu De Cymru wedi gweithio gyda Noddfa Kids and Community Project a Materion Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y cynllun, sy'n targedu mannau sy'n profi llawer o ymddygiad gwrth-gymdeithasol gyda thimau o weithwyr ieuenctid ar wahân, cyn pen 48 awr ar ôl ddigwyddiad.
Mae'r gweithwyr ieuenctid yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, ac yn darparu mynediad at weithgareddau iddynt, o chwaraeon, ffitrwydd, ffotograffiaeth, celfyddydau a chrefft, pysgota, coedwriaeth ac antur awyr agored i gerddoriaeth, dawns, y celfyddydau perfformio, coginio, celf graffiti, gwallt a harddwch a sgiliau gwneud ffilm.
Mae'r gweithwyr ieuenctid hefyd yn cynnig cyngor a chymorth wedi'i ddylunio i helpu pobl ifanc i osgoi patrymau o ymddygiad gwrth-gymdeithasol, a bod yn aelodau gweithredol o'r gymuned leol.
Drwy weithio gyda'n gilydd a darparu mynediad i weithgareddau addysgiadol, hamdden a chwaraeon, rydym yn gallu meithrin ymdeimlad gwell o gymuned ymhlith plant a phobl ifanc a'u cadw nhw'n actif ac yn brysur, ac yn llai tebygol o gymryd rhan mewn ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Mae'r cynllun yn galluogi gweithwyr ieuenctid sydd wedi cael hyfforddiant penodol i addysgu sgiliau bywyd defnyddiol iddynt, a darparu cyngor a chymorth, yn cynnwys ar faterion cymhleth megis iechyd rhywiol a chamddefnyddio sylweddau, sy'n bwysig ar gyfer eu hiechyd a'u llesiant tymor hir.
Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol