Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Help a chymorth ar gael ar gyfer gofalwyr yn ystod pandemig y coronafeirws

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn atgoffa unrhyw un sy'n gofalu am berthynas, cymydog neu ffrind fod help a chymorth yn parhau i fod ar gael drwy gydol pandemig y coronafeirws COVID-19.

Mae gwasanaeth llesiant gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, a ddarperir gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru, yn gweithredu llinell gymorth 24/7 sy'n rhoi'r wybodaeth a chyngor diweddaraf a allai helpu i'ch cyfeirio at adnoddau cymunedol pellach.

Mae gwefan y cyngor yn cynnig gwybodaeth a dolenni ar gyfer cael gafael ar gymorth a chadw eich hun yn ddiogel yn ystod y pandemig a cheir cysylltiadau i'r cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gall gofalwyr hefyd ddod o hyd i wybodaeth am faterion sy'n amrywio o arian i wella a chynnal llesiant corfforol ac emosiynol.

Er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o hyn, mae Kathy Proudfoot, sy'n Swyddog Datblygu Gofalwyr wedi recordio neges fideo y gallwch ei gweld ar dudalen Facebook Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru.

Mae'r fideo, sy'n un o gyfres a gynhyrchwyd gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, yn amlinellu sut gall pobl gael gafael ar gymorth ac mae hefyd yn rhoi manylion am brofiadau Kathy ei hun fel gofalwr.

Mae fideo Kathy yn cynnig mewnwelediad gonest a phersonol iawn i sicrhau bod gofalwyr yn gwybod sut i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, a hoffwn ddiolch iddi am ei holl ymdrechion.

Rwy'n gobeithio y bydd pobl a allai fod yn darparu gofal yn manteisio ar y cymorth sydd ar gael, ac yn rhannu'r fideo fel ei fod yn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl.

Cynghorydd Phillip White, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen we'r cyngor ar gyfer gofalwyr neu wefan Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru. Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth 24/7 Gwasanaeth Llesiant Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 336969.

Chwilio A i Y