Hanfodion hylendid bwyd dros y Nadolig
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 18 Rhagfyr 2018
Rhowch hylendid bwyd ar frig eich rhestr Nadolig ac osgoi'r anrheg does neb ei heisiau...gwenwyn bwyd.
Os ydych yn paratoi gwledd gartref, mae rhai pwyntiau pwysig a fydd yn eich cadw'n ddiogel a sicrhau y cewch chi Nadolig pleserus yn hytrach na phoenus.
- Wrth i chi siopa am fwyd y Nadolig, sicrhewch eich bod yn gwahanu bwydydd amrwd a bwydydd sy'n barod i'w bwyta er mwyn osgoi croeshalogi.
- Gwiriwch y canllawiau ar eich twrci i sicrhau bod gennych ddigon o amser i'w ddadmer yn gyfan gwbl - gallai gymryd hyd at bedwar diwrnod.
- Peidiwch â golchi twrci amrwd; mae'n tasgu germau ar eich dwylo, dillad, offer ac ardaloedd gwaith.
- Cyfrifwch yr amser coginio ar gyfer eich aderyn drwy wirio'r cyfarwyddiadau ar y pecyn. Gwiriwch fod y cig yn stemio’n boeth drwyddo draw, nad ydych yn gweld unrhyw gig pinc wrth dorri i’r darn mwyaf trwchus, a bod y suddion yn rhedeg yn glir.
- P’un a yw’r twrci rydych wedi’i goginio yn un wedi'i rewi neu'n ffres, gall y cig sydd dros ben gael ei ddefnyddio i greu pryd newydd (fel cyri twrci). Yna, gallwch rewi'r pryd newydd hwn, ond sicrhewch mai unwaith yn unig rydych chi’n ei ailgynhesu.
Daw’r cyngor hwn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Amcangyfrifir bod tua miliwn o achosion o wenwyn bwyd yn y DU bob blwyddyn, ac mae llawer o'r rhain yn digwydd dros y Nadolig. Dilynwch y canllaw hwn er mwyn eich diogelu chi a'ch teulu rhag gwenwyn bwyd afiach yn ystod y gwyliau.
Mae coginio cinio Nadolig ar gyfer grŵp mawr o bobl yn gallu bod yn heriol, ac mae'n hanfodol bod y twrci, neu unrhyw gig arall yn cael ei storio, ei ddadmer a'i goginio'n gywir. Yn yr un modd, mae angen i'r hyn sy'n weddill o'r cinio Nadolig gael ei ailgynhesu a'i fwyta o fewn terfyn amser penodol er mwyn osgoi gwenwyn bwyd.
Cynghorydd Dhanisha Patel, aelod o Gyd-bwyllgor y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir
Dywedodd Adam Hardgrave, Pennaeth Rheoli Clefydau a Gludir gan Fwyd yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd: "Yr hanfodion diogelwch bwyd: Oeri, glanhau, coginio ac atal croeshalogi - mae'r rhain i gyd yn bwysig drwy gydol y flwyddyn, ond yn enwedig dros y Nadolig. Yn ystod y prysurdeb o baratoi pryd Nadolig, mae'n bwysig cofio cynllunio ymlaen llaw a chaniatáu digon o amser."
Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalennau 'Bwyd yr Ŵyl' ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu dilynwch @foodgov #SeasonsEatings ar Twitter i gael awgrymiadau a chyngor drwy gydol yr ŵyl.