Gwyliau rhag talu rhent i fusnesau bach
Poster information
Posted on: Dydd Iau 19 Mawrth 2020
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gwyliau rhag talu rhent am dri mis i fentrau bach a chanolig (BBaChau) sy'n llogi safleoedd gan yr awdurdod lleol.
Byddai'r mesur yn cwmpasu masnachwyr ym Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr a Marchnad Awyr Agored Maesteg yn ogystal â thenantiaid unedau cychwynnol diwydiannol sy'n eiddo i'r Cyngor.
Rydym yn deall y pryderon sydd gan fusnesau a'r ergyd sydyn maen nhw'n ei wynebu oherwydd y mesurau cynyddol sydd ar waith yn ystod yr achosion o goronafeirws. Mae busnesau yn mynd i'r wal y funud hon, a nod y gwyliau rhag talu rhent yw cynnig achubiaeth i'r rheiny sydd ei hangen - mae rhent yn rhan fawr o dreuliau'r busnesau hyn.
Mae'r rhain yn amgylchiadau gwirioneddol eithriadol - byddwn yn gwneud ein gorau glas i gefnogi busnesau lleol yn ystod y cyfnod hwn. Dilynwch gyngor ac arweiniad Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r Ffederasiwn Busnesau Bach.
Rydym am sicrhau trigolion y byddwn yn cymryd pob cam angenrheidiol, mewn cydweithrediad â'n partneriaid, i gefnogi llesiant ein cymunedau cymaint â phosibl.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David
Bydd y cyngor yn adolygu'r polisi dros dro ymhen tri mis.