Gŵyl Ddysgu yn dychwelyd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 19 Mehefin 2019
Mae addysgwyr o bob rhan o Gymru yn paratoi i ymuno â disgyblion ac athrawon lleol yr wythnos nesaf ar gyfer Gŵyl Ddysgu 2019.
Cynhelir yr ŵyl yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 25 a 27 Mehefin, a bydd yn galluogi ysgolion i rannu technegau dysgu ac addysgu newydd ac arloesol ac i ddangos sut mae’r dechnoleg ddiweddaraf a datblygiadau modern yr ystafell ddosbarth yn cael eu defnyddio er budd plant lleol.
Mae’r ŵyl yn galluogi ysgolion i rannu eu profiadau a’u gwybodaeth. Ar yr un pryd gallant sefydlu cyfleoedd hyfforddi newydd i athrawon a staff, ac mae’r ŵyl hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau, arddangosfeydd ac arddangosiadau.
Ar y diwrnod cyntaf (25 Mehefin) cynhelir digwyddiad symposiwm lle bydd siaradwyr ac addysgwyr allweddol yn ystyried sut mae modd datblygu, cynnal a gwella iechyd a lles disgyblion.
Diwrnod arddangos fydd yr ail ddiwrnod (26 Mehefin) wrth i ddisgyblion o ysgolion lleol osod eu stondinau a chynnig arddangosfeydd ac arddangosiadau ymarferol o rai o’r technegau ystafell ddosbarth sy’n cael eu defnyddio.
Bydd y diwrnod olaf (27 Mehefin) yn cynnwys fforwm ‘lleisiau dysgwyr’ lle bydd disgyblion yn ymgasglu gyda chynrychiolwyr o Gyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr i gynnig safbwynt unigryw ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw - lles cenedlaethau’r dyfodol, materion amgylcheddol, ailgylchu, democratiaeth, sut y gall pobl ifanc gyfrannu tuag at greu polisi a mwy.
Roedd yr Ŵyl Ddysgu y llynedd yn llwyddiant ysgubol, ac rwyf wrth fy modd fod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal y digwyddiad unwaith eto yn 2019.
Mae lle amlwg iawn i blant yn yr ŵyl hon, ac mae’r digwyddiad yn dod â sefydliadau ynghyd er mwyn iddynt rannu gwybodaeth, magu dealltwriaeth newydd ac ystyried sut mae modd defnyddio hyn i gyd er budd y disgyblion.
Mae’r digwyddiad unigryw hwn yn darparu canlyniadau sydd o fudd nid dim ond i blant lleol, ond i bob disgybl drwy Gymru.”
Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio:
Ymysg y sefydliadau sy’n cymryd rhan yn yr Ŵyl Ddysgu mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfa’r Comisiynydd Plant, Prifysgol De Cymru, Cyd Wasanaeth Addysg Consortiwm Canolbarth y De a Compass for Life.
Mae croeso i ohebwyr ddod i'r Ŵyl Ddysgu - am fwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r wasg y swyddfa ar 01656 643217 neu e-bostiwch communications@bridgend.gov.uk