Gwobrwyo Ysgol Gynradd Llidiard am ei hymrwymiad i'r Gymraeg
Poster information
Posted on: Dydd Iau 18 Tachwedd 2021
Mae Ysgol Gynradd Llidiard wedi'i dyfarnu â Gwobr Aur Cymraeg Campus am ei gwaith caled yn datblygu'r Gymraeg.
Nod y wobr hon, sy'n cael ei chynnig gan y Siarter Iaith, yw hyrwyddo natur Gymraeg gref mewn ysgolion a chyflwyno amrywiaeth o weithgareddau cyfoethog sy'n annog plant i fwynhau dysgu'r iaith.
Fel rhan o gyflawni'r Wobr Aur hon, aeth disgyblion a staff Ysgol Gynradd Llidiard ati i hyrwyddo'r Gymraeg drwy wrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn ystod gwasanaethau, creu posteri yn hyrwyddo pwysigrwydd dysgu Cymraeg a defnyddio amrywiaeth o apiau a llyfrau Cymraeg i gyfoethogi eu dysg.
Wrth lyw'r gweithgareddau hyn oedd Criw Cymraeg brwdfrydig yr ysgol – grŵp o ddisgyblion a gafodd y dasg o arwain mentrau, ac annog disgyblion a staff i ymarfer y Gymraeg bob dydd, yn ogystal â hyrwyddo diwylliant Cymreig.
Aeth y Criw Cymraeg ati i weithredu mentrau, gan gynnwys creu 'Pod Siarad' ar fuarth yr ysgol, sy'n darparu ardal i'r plant fynd iddi i siarad Cymraeg, a 'Wal Graffiti' ym mannau gwahanol yn yr ysgol gyda dywediadau yn annog y Gymraeg.
Roedd y Criw Cymraeg hefyd ynghlwm â'r gymuned ehangach, yn helpu i hyrwyddo'r Gymraeg mewn siop leol, lle gwnaethant roi amrywiaeth o ddywediadau i berchennog y siop er mwyn eu defnyddio i gyfathrebu â chwsmeriaid.
Dywedodd Sandra Harris, cydlynydd Cymraeg Ysgol Gynradd Llidiard: "Pleser a braint oedd gweld ymrwymiad a brwdfrydedd y plant o ran datblygu'r Gymraeg ar draws yr ysgol ac yn y gymuned leol.
"Heb yr ymdrech a'r brwdfrydedd hwn, ni fyddem wedi cyflawni'r llwyddiant hwn."
Mae pawb yn Ysgol Gynradd Llidiard wedi gweithio'n galed i gyflawni'r Wobr Aur Cymraeg Campus hon sy'n gwbl haeddiannol.
Mae'r disgyblion, a'r Criw Cymraeg yn arbennig, wedi meddwl am ystod o fentrau gwych i hyrwyddo'r Gymraeg, yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio