Gwobrau i fannau gwyrdd a pharciau lleol
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 26 Gorffennaf 2019
Mae naw o fannau gwyrdd a pharciau prydferthaf Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ennill gwobr fawreddog y Faner Werdd.
Mae tri safle sy'n cael eu cynnal a’u cadw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sef Llyn Porthcawl, Parc Lles Maesteg ac Amlosgfa Llangrallo, wedi ennill yr hawl i gyhwfan y faner y mae gymaint o ddyheu amdani sy'n cael ei dyfarnu gan Cadwch Gymru’n Daclus.
Mae gwobr y Faner Werdd yn cydnabod mor groesawgar, diogel, glân a thaclus yw bob un o'r mannau sy’n cael eu gwobrwyo. Mae'r wobr hefyd yn asesu pa mor briodol yw'r ffordd y mae nodweddion cadwraeth a threftadaeth yn cael eu rheoli, faint o ran y mae'r gymuned yn ei chwarae yn y gwaith o gynnal a chadw pob man, rheoli adnoddau mewn modd cynaliadwy, a pha mor effeithiol y mae bob man yn cael ei farchnata.
Llwyddodd Parc Gwledig Bryngarw ac Ysbyty Glanrhyd hefyd i ennill prif Wobr y Faner Werdd eleni, ac enillodd Gardd Farchnad Caerau, Coetir Ysbryd Llynfi, Cymdeithas Randir Wilderness a Rhandir Badgers Brook ym Mhen-y-bont ar Ogwr Wobr Gymunedol y Faner Werdd.
Mae’n wych bod gymaint o’n mannau gwyrdd a’n parciau lleol wedi ennill gwobrau mawreddog y Faner Werdd eleni.
Hoffwn longyfarch Amlosgfa Llangrallo yn arbennig am lwyddo i ennill gwobr y Faner Werdd am y ddegfed flwyddyn yn olynol. Mae'r gerddi a’r tir o amgylch yr amlosgfa yn creu amgylchedd o heddwch a llonyddwch sy’n cysuro ymwelwyr a galarwyr a lle gallant eistedd yn dawel a myfyrio.
Hoffwn ganmol yr holl weithwyr a gwirfoddolwyr am eu hymroddiad wrth gynnal y parciau a'r mannau gwyrdd hardd hyn.”
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yng Nghymru: “Hoffem longyfarch pob parc sydd wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd ar gyfer 2019/2020. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn falch dros ben bod cymaint o fannau gwyrdd a pharciau yng Nghymru wedi cyrraedd y safonau uchel sy’n angenrheidiol i ennill statws y Faner Werdd. Byddwn yn annog pawb i fynd allan i'r awyr agored yr haf hwn a mwynhau’r mannau gwyrdd a'r parciau anhygoel sydd gennym ar garreg ein drws.”
I gael gwybod mwy am wobrau'r Faner Werdd, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.