Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwobrau i arwyr lleol sy’n ysbrydoli!

Mae arwyr lleol wedi bod yn ennill gwobrau am y ffordd y maen nhw’n ysbrydoli eraill i fyw yn iachach.

Cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei seremoni ‘Gwobrau Ysbrydoliaeth Oes’ gyntaf erioed i ddathlu ymdrechion unigolion, grwpiau a sefydliadau eithriadol sy’n cyfrannu at wella iechyd a llesiant y bobl leol.

Crëwyd rhestr fer o’r rhai a gafodd eu henwebu yn dilyn gwahoddiad i’r cyhoedd gynnig ymgeiswyr teilwng, cyn i enillwyr pum dosbarth gael eu dewis yn y digwyddiad a gynhaliwyd ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl. Yr enillwyr oedd...

Gwobr Un Person, Gwahaniaeth Mawr - Simon Green
Mae Simon wedi gwneud llawer o bethau anhygoel i wella bywydau pobl anabl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n ymgyrchu'n ddiflino dros well ymwybyddiaeth, cynhwysiant gwell, a mwy o hygyrchedd i bobl anabl. Mae'n Gadeirydd Clymblaid Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr, yn Ymddiriedolwr gydag Anabledd Cymru ac mae hefyd yn gweithio gyda'r Rhwydwaith Troseddau Casineb Anabledd.

Gwobr Gwneud Gwahaniaeth - Cymorth Dodrefn Cymunedol
Gyda chriw bach ymroddgar o wirfoddolwyr, mae'r elusen hon o Bont-y-cymer yn sicrhau bod gan aelodau mwyaf agored i niwed y gymuned ddodrefn yn ogystal â'r pethau ychwanegol sy'n helpu i wneud cartref yn dŷ. Mae'r grŵp yn derbyn atgyfeiriadau oddi wrth dros 40 o asiantaethau ac elusennau, gan gyflenwi dodrefn i ddodrefnu cartrefi ar gyfer pobl ddigartref a rhai sy'n byw mewn tlodi.

Gwobr Dyfodol Disglair - Nora Hardy
Mae Nora yn ddisgybl 17 oed yn Ysgol Gyfun Bryntirion sydd wedi cyfrannu'n fawr at y gymuned ehangach i helpu ac ysbrydoli eraill. Pan oedd hi ond yn 18 mis oed, roedd yn rhaid iddi gael trawsblaniad iau, ac wrth iddi dyfu fyny, mae wedi gwneud gwaith anhygoel i godi ymwybyddiaeth am Sefydliad Clefyd yr Iau mewn Plant. Oherwydd anawsterau teuluol a phroblemau iechyd, ni ddechreuodd Nora yn yr ysgol tan yn naw oed, ond trwy waith caled a phenderfyniad mae hi bellach wedi ennill 11 TGAU ac yn astudio ar gyfer pum lefel A.

Gwobr y tu hwnt i’r galw – Geoff Cheetham
Yn wirfoddolwr eithriadol, mae Geoff yn credu'n gryf mewn gwella iechyd a lles pobl hŷn yn ein cymuned. O ddarparu sesiynau gweithgarwch corfforol mewn lleoliadau gofal dydd a phreswyl, i arwain dosbarthiadau Tai Chi mewn parciau lleol, mae brwdfrydedd Geoff yn heintus. Ar ben hyn oll, mae'n dal i lwyddo i weithio'n ddiflino gyda SHOUT Pen-y-bont.

Gwobr Arloesi - Canolfan Cwricwlwm Amgen Maesteg, Ysgol Maesteg
Adran fach o bedwar aelod staff yn gweithio gyda disgyblion sy'n agored i niwed i ddarparu cymorth corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac addysgol. Mae ffurfio perthynas agos gyda'r disgyblion a'u teuluoedd yn allweddol i lwyddiant yr adran hon, ac mae'r effaith maen nhw wedi ei chael wedi arwain at well hapusrwydd, presenoldeb, ymddygiad a theimlad cynyddol o 'berthyn'.

Mae cyflawniadau pobl gyffredin yn gallu cael effaith anhygoel ar eraill, yn enwedig ar bobl fregus. Mae gan bawb y gallu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd eraill. Cafwyd ymateb anhygoel i’n gwahoddiad i drigolion enwebu’r arwyr di-glod sy’n gwneud gwaith rhagorol er mwyn eraill, sy’n dangos y parch enfawr sydd gan bobl tuag at eu hymdrechion.

Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet y Cyngor dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol

“Mae pob un o’n henillwyr haeddiannol yn helpu i wella bywyd pobl eraill mewn gwahanol ffyrdd. Mae’r gwobrwyon yn ffordd wych i’r gymuned ddweud ‘diolch’ wrth yr unigolion twymgalon hyn ac rwy’n gobeithio y bydd eu gweithredoedd yn ysbrydoli eraill.

“Hoffwn hefyd ddiolch o galon i’n partneriaid, Linc Cymru, New Directions, Technoleg Sony UK, BAVO a Chwaraeon Cymru, am ein cefnogi wrth inni drefnu’r noson wobrwyo “Gwobrau Ysbrydoliaeth Oes.”

Chwilio A i Y