Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer – gwobrwywch ein harwyr lleol!
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 07 Rhagfyr 2018
Ydych chi'n adnabod rhywun sy'n mynd cam ymhellach er mwyn eraill yn gyson, yn rhagorol am godi arian at elusennau, neu sydd wedi rhoi'r ardal leol ar y map wrth gyflawni rhywbeth arbennig yn ystod 2018?
Gyda diwedd y flwyddyn yn agosáu, mae Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gofyn i drigolion lleol enwebu eu henwebiadau ar gyfer unigolion, grwpiau neu fusnesau sy'n deilwng o Wobr Dinasyddiaeth y Maer.
Bob blwyddyn, gofynnir i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr enwebu'r arwyr tawel sy'n haeddu 'diolch' neu 'da iawn' arbennig gan y gymuned leol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i roi'r gwerthfawrogiad haeddiannol i'r bobl arbennig hyn, ond, yn gyntaf oll, mae arnaf angen eich help. Rhowch eich enwebiadau cyn gynted ag y bo modd!
Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd John McCarthy
Wedi'i drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r gwobrau'n agored i bobl sy'n byw yn y fwrdeistref sirol, yn ogystal â grwpiau a busnesau lleol sy’n gweithredu yn yr ardal.
Ymhlith enillwyr y llynedd roedd Gemma Hartnoll, o Gorneli, sef sylfaenydd WINGS Cymru. Derbyniodd Gemma ei gwobr am y gwaith rhagorol y mae wedi'i wneud i frwydro 'tlodi mislif' drwy ddarparu cynhyrchion glanweithiol am ddim mewn ysgolion ar gyfer merched sydd eu hangen.
Enillodd sawl gwirfoddolwr caredig wobrau hefyd, gan gynnwys y gwirfoddolwyr sy'n rhedeg Clwb Bechgyn a Merched Wyndham yng Nghwm Ogwr, a Geoff Cheetham, sy'n rhoi llawer o'i amser i helpu aelodau hŷn y gymuned i gadw'n heini a chymdeithasol yn ei glwb ‘ifanc eu hysbryd’ yng Nghefn Glas.
Cydnabu nifer o eiriolwyr elusennau am eu hymdrechion hefyd, gan gynnwys Pat Griffiths, sydd wedi codi miloedd o bunnoedd i Latch, elusen canser i blant.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau Gwobr Dinasyddiaeth y Maer yw dydd Gwener, 25 Ionawr 2019, a bydd enillwyr y wobr yn cael eu hanrhydeddu mewn digwyddiad a gynhelir gan y Maer yn y Swyddfeydd Dinesig ym Mhen-y-bont ar Ogwr fis Mawrth 2019.
Ewch i dudalennau'r Maer i gwblhau ffurflen enwebu ar-lein.