Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer – gwobrwyo ein harwyr lleol!
Poster information
Posted on: Dydd Iau 28 Tachwedd 2019
Ydych chi’n gwybod am rywun sy’n mynd yr ail filltir i bobl eraill, sydd wedi codi llawer arian i elusen neu achos da, neu sydd wedi rhoi'r ardal leol ar y map drwy gyflawni rhywbeth arbennig?
Wrth i 2019 ddirwyn i ben, mae trigolion lleol yn cael eu hannog i enwebu unigolion, grwpiau neu fusnesau sy’n haeddu Gwobr Dinasyddiaeth y Maer yn eu barn nhw.
Bob blwyddyn, gofynnir i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr enwebu arwyr tawel sy’n haeddu diolch neu gydnabyddiaeth arbennig gan y gymuned leol.
Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â’r bobl hyn a rhoi’r gwerthfawrogiad maen nhw’n ei haeddu iddyn nhw, felly ewch ati i gyflwyno eich enwebiadau cyn gynted â phosib.
Cynghorydd Stuart Baldwin, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Caiff y gwobrau eu trefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac maent ar agor i bawb sy’n byw yn yr ardal, yn ogystal â grwpiau a busnesau lleol sydd wedi dangos y math o werthoedd sy’n gwneud y fwrdeistref sirol yn wych.
Roedd enillwyr y llynedd yn cynnwys y person ieuengaf erioed i gael gwobr – Hollie Evans, disgybl 11 oed o Ysgol Gynradd Llidiard, a gafodd ei chydnabod am godi ymwybyddiaeth o Syndrom Down’s, yn ogystal â chynnal gweithgareddau elusennol i helpu plant gyda chanser.
Fe wnaeth nifer o wirfoddolwyr gwych ennill gwobrau hefyd, gan gynnwys y gwirfoddolwyr sy’n cynnal y Clwb Techtivity ym Mhorthcawl, lle mae plant ag anghenion amrywiol yn cwrdd ac yn chwarae gyda thechnoleg a meddalwedd arbenigol mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.
Cafodd nifer o drigolion yr ardal eu cydnabod am eu hymdrechion hefyd, gan gynnwys Jean Gorick o Fryntirion, gwirfoddolwraig ymroddgar sydd wedi bod yn codi arian i apêl y pabi ers 40 mlynedd; a David Baynham, perchennog siop o Bencoed a gafodd ei gydnabod am gefnogi ei gymuned mewn sawl ffordd.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer yw Dydd Gwener 24 Ionawr 2020. Bydd enillwyr y gwobrau yn cael eu hanrhydeddu mewn digwyddiad yn Swyddfeydd Sifig y Maer ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Mawrth 2020.