Gwobrau ar gyfer adeiladau newydd gorau y fwrdeistref sirol
Poster information
Posted on: Dydd Iau 15 Mawrth 2018
Gweddnewidiad trawiadol Adeilad Jennings ym Mhorthcawl a’r cartref croesawgar newydd ar gyfer Y Bont ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd y prif enillwyr yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Adeiladu LABC Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd yn cael eu cynnal ers deuddeg mlynedd erbyn hyn.
Rhyngddynt, enillodd y ddau adeilad bump o’r naw gwobr a gyflwynwyd gan y cyngor mewn seremoni a gynhaliwyd yn y Swyddfeydd Dinesig, Pen-y-bont ar Ogwr.
Cynlluniwyd y cartref newydd ar gyfer Y Bont gan Oriel Architects a’i adeiladu gan Willmott Dixon. Fe’i crëwyd wrth ochr Pencadlys Heddlu De Cymru ar Heol y Bont-faen. Mae cynllun yr adeilad newydd yn debyg i gynllun y pencadlys, ond ar raddfa lawer llai, felly mae’n sicr yn cydweddu â’r ardal leol ac yn cymryd lle’r hen gaffi a oedd ar y safle cyn hynny.
Y briff gwreiddiol oedd cynllunio adeilad addas i bawb, a llwyddodd Oriel Architects i wneud hynny yn sicr, drwy greu amgylchedd tawel ac addas i unrhyw anabledd a defnyddiwr. Cyflwynodd y cyngor dair gwobr i’r datblygiad, i gydnabod ei ansawdd uchel, – ‘Adeilad gwasanaethau cyhoeddus gorau’, ‘Adeilad cynhwysol gorau’, a ‘Gwobr cynllunio arbennig’.
Rhoddwyd bywyd newydd i Adeilad Jennings ar lan y môr Porthcawl y llynedd. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol ym 1832, ac mae wedi’i ddefnyddio ar gyfer sawl diben ers hynny, ond bu’n segur ers dros ddegawd, felly roedd angen i Loft Co a Phenseiri Ellis Williams adnewyddu’r adeilad rhestredig Gradd II mewn modd sensitif. Mae’r datblygiad a grëwyd o safon eithriadol, a arweiniodd at iddo ennill dwy wobr rhagoriaeth ym maes adeiladu - ‘Adeilad masnachol bach gorau’ a ‘Cynllun partneriaeth gorau’.
Hefyd ymhlith yr enillwyr oedd adeilad newydd Ysgol Gynradd Betws, a enwyd yn ‘Adeilad addysgol gorau’ a chartref breuddwydion Jeff a Debbie Williams ym Mhorthcawl enillodd y wobr am ‘Cartref unigol newydd gorau’. Wrth deithio’r byd yn dilyn ei yrfa ym maes rygbi proffesiynol, casglodd Jeff a’i wraig Debbie luniau o’r hoff gartrefi yr oedden nhw wedi byw ynddynt neu eu gweld dros gyfnod o 25 mlynedd, ac maen nhw wedi defnyddio’r lluniau hyn fel ysbrydoliaeth i greu cartref gwych â phedair ystafell wely ar Lôn Marlpit.
Bwriad Gwobrau Rhagoriaeth ym maes Adeiladu LABC yw dathlu rhagoriaeth ar bob cam, o’r bwrdd cynllunio i’r safle ei hun. Trefnir y gwobrau gan dîm rheoli adeiladau y cyngor, sy’n cynnal 7,000 o arolygiadau y flwyddyn, sy’n cynnwys archwilio sylfeini tai newydd a strwythurau dur mewn prosiectau diwydiannol. Rydym yn atebol i’r cyhoedd ac mae pobl yn y diwydiant adeiladu yn parchu ein cyngor diduedd.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Gymunedau.
Ychwanegodd y Cynghorydd Richard Young: “Mae Rheoliadau Adeiladu yn newid yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod adeiladau mor ddiogel, hygyrch a chynaliadwy â phosibl, ac mae’n debygol y bydd rheoliadau newydd pwysig yn cael eu cyflwyno’n fuan yn sgil y tân trychinebus yn Nhŵr Grenfell.
“Mae’r gwobrau blynyddol hyn yn cydnabod ansawdd crefft yr adeiladwyr i gydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu, ac yn ogystal â hyn, i ddangos y safonau uchaf o arloesi technegol i adeiladu adeiladau sy’n diwallu anghenion y cwsmeriaid ac sy’n edrych yn wych.
“Rydym wedi gweld gwaith cynllunio gwirioneddol arloesol, defnydd ystyrlon o ddeunyddiau, ac, mewn un achos, penderfyniad gwirioneddol i achub adeilad a oedd yn agos at gael ei chwalu. Dylai’r holl enillwyr fod yn hynod falch o’u gwobrau a hoffwn i longyfarch pob un ohonynt ar eu llwyddiant.”
Mae’r rhestr lawn o enillwyr yng Ngwobrau Blynyddol Rhagoriaeth ym maes Adeiladu LABC Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel a ganlyn:
Estyniad neu addasiad gorau: Estyniad Tŷ Pyllau yng Nghoetre-hen gan Scimitar Construction.
Cartref unigol newydd gorau: Cartref ardderchog â phedair ystafell wely ‘Bayleaves’ ar Lôn Marlpit, Porthcawl, yn eiddo i Jeff a Debbie Williams. Adeiladwyd gan adeiladwr lleol, Karl Gardner.
Datblygiad mawr gorau ar gyfer tai newydd: Datblygiad Pentre Felin ar Heol Maesteg, Tondu, gan Llanmoor Homes Ltd. Mae dros ddau gant o dai newydd wedi’u hadeiladu i safon uchel ar y safle hwn a oedd yn safle tir llwyd yn flaenorol.
Adeilad gwasanaethau cyhoeddus gorau, Adeilad cynhwysol gorau, a Gwobr cynllunio arbennig: Mae hen gaffi wedi’i ailddatblygu yn gartref newydd croesawgar ar gyfer Y Bont ger y fynedfa i Bencadlys yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr wrth ochr y gerddi coffáu. Y contractwr oedd Willmott Dixon a’r pensaer oedd Steve Price o Oriel Architects.
Adeilad addysgol gorau: Adeilad newydd Ysgol Gynradd Betws, a gynlluniwyd gan dîm Amgylchedd Adeiledig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac a adeiladwyd gan Andrew Scott Ltd.
Adeilad masnachol bach gorau a’r Cynllun partneriaeth gorau: Gweddnewidiad Adeilad Jennings sy’n adeilad rhestredig Gradd II ar lan y môr Porthcawl gan Loft Co a Phenseiri Ellis Williams.
Bydd pob un o’r enillwyr yn awr yn cystadlu yn erbyn eraill o bob rhan o’r rhanbarth yng Ngwobrau Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol De Cymru, a fydd yn cael eu cynnal yng Ngwesty’r Vale ddydd Gwener 27 Ebrill, ac os yn llwyddiannus, byddant yn symud ymlaen i’r gwobrau cenedlaethol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Noddwyd Gwobrau Rhagoriaeth ym maes Adeiladu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan SCOTT, Loft Co, LBS Builders’ Merchants, ACD Skips Ltd, GreenBuild Consult, Darkin Architects, Llanmoor Homes a Domestic Sprinklers South Wales.