Gwobr Teithio Llesol i Ysgol Gynradd Croesty
Poster information
Posted on: Dydd Iau 25 Hydref 2018
Ysgol Gynradd Croesty yw'r ysgol ddiweddaraf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ennill Gwobr Teithio Llesol Efydd gan Sustrans Cymru o ganlyniad i’r ffordd y mae disgyblion a rhieni'n dewis dwy olwyn dros bedair i wneud y daith ddyddiol i’r ysgol.
Mae nifer y plant sydd fel arfer yn teithio i'r ysgol yn y car wedi gostwng 23% dros y ddwy flynedd diwethaf.
Yn ystod yr un cyfnod, mae canran y disgyblion sy'n beicio i'r ysgol wedi cynyddu bedair gwaith o 6% i 24%, a chafwyd cynnydd sylweddol hefyd yng nghanran y disgyblion sy'n mynd ar sgwter i’r ysgol - o 2% i 26%.
Mae gan yr ysgol grŵp o ddisgyblion brwdfrydig sy'n hyrwyddo manteision rhaglen Teithio Llesol Sustrans Cymru ymhlith eu cyfoedion yn y dosbarth, ac mae'r ysgol yn dathlu 'Dydd Mercher yr Olwynion' bob wythnos i annog disgyblion i feicio neu fynd ar sgwter yn fwy ac maent hefyd wedi cynnal diwrnodau 'Bling i'ch Beic' a 'Sglein i'ch Sgwter' lle gall disgyblion ychwanegu ychydig o ‘bling’ i'w holwynion!
Diolch i geisiadau grant llwyddiannus gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gwnaed gwerth mwy na £1.5m o welliannau Teithio Llesol ym Mhencoed dros y tair blynedd diwethaf.
Mae'r buddsoddiad wedi cyfrannu at nifer o fesurau diogelwch ffyrdd megis creu sawl llwybr newydd y mae modd i gerddwyr a beicwyr eu rhannu.
Rhoddwyd hwb ychwanegol i Deithio Llesol yn yr ardal hefyd drwy gyhoeddiad diweddar bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn £500,000 ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i adeiladu llwybr oddi ar y ffordd i gerddwyr a beicwyr ar hyd Heol Llangrallo ym Mhencoed i gwblhau'r cysylltiad rhwng Llangrallo ac Ysgol Gyfun Pencoed. Mae’r gwaith ar y cynllun yn dechrau ar ddiwedd mis Hydref a bydd yn dod i ben cyn diwedd mis Mawrth 2019.
Meddai Roger Dutton, Swyddog Ysgolion Sustrans, “Mae'r gostyngiad sylweddol yn nifer disgyblion Croesty sydd fel arfer yn dod i'r ysgol yn y car yn cadarnhau bod ein rhaglen Teithio Llesol a'r rhwydwaith llwybrau diogel gwell ym Mhencoed yn gwneud gwahaniaeth.
“Os yw'n bosib gadael eich car gartref pan fyddwch yn teithio i'r ysgol, yna mae gwneud hynny nid yn unig yn fanteisiol i'r amgylchedd ac i iechyd eich plant, ond mae hefyd yn rhoi egni iddynt ar gyfer dechrau'r diwrnod ysgol!"
Da iawn i ddisgyblion Croesty ar ennill y wobr hon. Mae eu brwdfrydedd dros Deithio Llesol yn heintus ac mae'n wych gweld bod gwell mynediad i lwybrau diogel a chyfleus yn cael effaith mor fawr.
Un o'r gwelliannau mwyaf nodedig a wnaed ym Mhencoed yn ddiweddar i hwyluso Teithio Llesol oedd creu llwybr 'goleuo yn y tywyllwch' drwy gaeau chwarae Woodlands.
Oherwydd ei fod wedi'i wneud o arwynebedd arbennig, mae'n defnyddio golau UV yn ystod y dydd ac yn rhoi golau ysgafn er mwyn gwneud y llwybr yn weladwy yn y tywyllwch. Mae'n ffordd greadigol o annog Teithio Llesol a fydd yn ddefnyddiol iawn yn ystod misoedd y gaeaf.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau