Gwnewch gais ar-lein am le mewn ysgol gyda Fy Nghyfrif
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2019
Rydyn ni nawr yn croesawu ceisiadau ar gyfer y disgyblion newydd fydd yn dechrau mewn ysgolion babanod, iau a chynradd ym mis Medi 2020 ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gyda gwasanaeth Fy Nghyfrif ar-lein y cyngor, mae cyflwyno ceisiadau yn haws nag erioed.
Cofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif ar wefan y cyngor, dewiswch y ffurflen ar-lein berthnasol, ei llenwi a’i chyflwyno cyn y dyddiad cau sef 13 Chwefror 2020.
Mae ymuno â Fy Nghyfrif am ddim a dim ond cyfeiriad e-bost sydd ei angen arnoch chi. Gydag opsiynau ar gyfer rheoli cyfrif eich treth gyngor, cadarnhau eich budd-dal tai a mwy, mae Fy Nghyfrif yn golygu y byddwch chi’n osgoi gorfod mynd i’r swyddfeydd dinesig yn bersonol, ciwio neu aros am gysylltwr ffôn i fod yn rhydd, ac mae’n cynnig ffordd gyflym, ddiogel a mwy cyfleus o ymgysylltu â’r cyngor.
Ers lansio Fy Nghyfrif flwyddyn yn ôl, mae wedi dod yn fwyfwy poblogaidd wrth i rieni a gwarcheidwaid sylweddoli pa mor gyflym, cyfleus ac effeithlon yw’r broses.
Gyda mwy na 5,300 o geisiadau y llynedd yn unig, mae Fy Nghyfrif wedi prosesu bron 93 y cant o’r holl geisiadau hynny am lefydd mewn ysgolion babanod, iau neu gynradd.
Mae proses gwneud cais ar wahân ar waith ar gyfer derbyn plant i ysgolion eglwysig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, a bydd angen i rieni a gofalwyr gysylltu â'r ysgolion hynny’n uniongyrchol i ofyn am ffurflen gais
Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio
I gael rhagor o fanylion am dderbyn plant i'r ysgol, yn cynnwys mapiau dalgylch, ewch i gael mwy o fanylion am dderbyniadau ysgol, gan gynnwys mapiau dalgylch, ewch i'n tudalen derbyniadau ysgolion.