Gwneud cais ar-lein am le mewn ysgol uwchradd
Poster information
Posted on: Dydd Llun 22 Hydref 2018
Mae derbyniadau i ysgolion uwchradd ar gyfer Medi 2019 yn agor ddydd Llun 22 Hydref, ac am y tro cyntaf bydd yn bosibl gwneud cais ar-lein.
Bydd gan rieni a gofalwyr y dewis o wneud cais ar gyfer eu plentyn gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein sydd ar gael yn yr adran 'Fy Nghyfrif' ar wefan y cyngor.
Er mwyn gallu llenwi ffurflen derbyniadau i ysgol uwchradd ar-lein, mae angen i drigolion gofrestru gyda 'Fy Nghyfrif' yn www.bridgend.gov.uk trwy roi cyfeiriad e-bost.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch dalgylchoedd, gwiriwch y mapiau dalgylch sydd ar dudalennau derbyniadau i ysgolion yn gyntaf ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.
Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Unwaith mae ceisiadau ar gyfer ysgolion uwchradd ar agor, bydd gan rieni a gofalwyr disgyblion ysgol gynradd sydd ar hyn o bryd ym Mlwyddyn Chwech tan ddydd Gwener 11 Ionawr 2019 i gyflwyno eu cais. Byddant yn cael eu hysbysu am ganlyniad eu cais ddydd Gwener 1 Mawrth 2019.
Noder bod y broses ymgeisio ar wahân ar gyfer derbyniadau i Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath. Dylai rhieni a gofalwyr gysylltu â'r ysgol yn uniongyrchol er mwyn cael ffurflen gais.
Ychwanegodd y Cynghorydd David: “Datblygwyd y swyddogaeth 'Fy Nghyfrif’ ar gyfer ein gwefan newydd yn dilyn adborth gan drigolion a ddywedodd eu bod eisiau i'r awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau ar-lein gwell, cyflymach a mwy rhyngweithiol.
“Trwy 'Fy Nghyfrif’, mae trigolion eisoes yn gallu rheoli eu treth gyngor a'u cyfrifon budd-daliadau tai, ac yn raddol, cynigir rhagor o gyfleoedd iddynt i gael mynediad at wasanaethau'r cyngor pryd bynnag y mynnant heb orfod aros mewn ciw neu ar y ffôn.
“Dros y misoedd nesaf, bydd hefyd yn bosibl defnyddio 'Fy Nghyfrif’ i wneud ceisiadau ar-lein am leoedd meithrinfa, dosbarth babanod, dosbarth plant iau ac ysgol gynradd.”
Mae mwy o wybodaeth am dderbyniadau ysgol, gan gynnwys mapiau dalgylch, i'w gweld ar dudalen we derbyniadau ysgol y cyngor