Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwneud cais am leoedd mewn ysgolion uwchradd ar-lein

Mae derbyniadau ysgol uwchradd ar gyfer Medi 2023 ar fin agor ddydd Llun 17 Hydref am 10am, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn atgoffa trigolion bod cyflwyno cais y fwy syml a chyflym nag erioed.

Bellach mae gan rieni, gwarcheidwaid a gofalwyr disgyblion ysgolion cynradd sydd ym Mlwyddyn 6 ar hyn o bryd yr opsiwn i ddefnyddio ffurflen ar-lein gyfleus i wneud cais am le i’w plentyn ym Mlwyddyn 7.

Mae’r ffurflen ar gael yn yr adran ‘Fy Nghyfrif’ ar wefan y cyngor. Gallwch greu cyfrif yn syml drwy nodi cyfeiriad e-bost dilys. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 4pm 20 Ionawr 2023, a rhyddheir hysbysiadau 1 Mawrth 2023.

Mae gwefan y cyngor yn cynnwys tudalen derbyniadau ysgolion, ac ar y dudalen honno ceir gwybodaeth am wneud cais am le mewn ysgol uwchradd, gan gynnwys mapiau dalgylch rhag ofn nad ydych yn siŵr ar gyfer pa ysgol y dylech gyflwyno cais.

Gellir gwneud cais yn gyflym gan ddefnyddio ffurflen ar-lein sydd ar gael fel rhan o wasanaeth Fy Nghyfrif y cyngor, sydd am ddim. Os nad oes gennych gyfrif yn barod, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw nodi cyfeiriad e-bost dilys. Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu cwblhau'r ffurflen gais ar-lein.

Nid oes mynediad awtomatig na gwarantedig i unrhyw ysgol uwchradd yn y fwrdeistref sirol, felly os na fyddwch yn cyflwyno cais erbyn y dyddiad cau ar 20 Ionawr, efallai na fyddwch yn llwyddo i gael eich ysgol ddewisol. Os mai'ch ysgol ddewisol yw Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath, dylech gysylltu â'r ysgol yn uniongyrchol i ofyn am ffurflen gais.

Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.bridgend.gov.uk/schooladmissions

Chwilio A i Y