Gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd ar-lein
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 16 Hydref 2019
Gallwch wneud cais am le mewn ysgol uwchradd ar gyfer mis Medi 2020 o ddydd Llun 21 Hydref ymlaen ac mae gwneud cais ar-lein yn hawdd ac yn gyflym.
Bydd gan rieni a gofalwyr yr opsiwn o wneud cais am le eu plentyn gan ddefnyddio ffurflen ar-lein sydd ar gael yn yr adran ‘Fy Nghyfrif’ ar wefan y cyngor.
Er mwyn llenwi ffurflen gais ar gyfer derbyn i ysgol uwchradd, y cyfan mae’n rhaid i drigolion ei wneud yw mewngofnodi i ‘Fy Nghyfrif’ yn www.bridgend.gov.uk drwy ddarparu cyfeiriad e-bost.
Os nad ydych chi’n hollol siŵr am y dalgylchoedd, cymerwch gip ar y mapiau dalgylch ar dudalennau ‘derbyniadau i ysgolion’ ein gwefan yn gyntaf cyn i chi wneud cais.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg
Unwaith y bydd y ceisiadau am le i ysgol uwchradd yn agor, bydd gan rieni a gofalwyr disgyblion mewn ysgolion cynradd sydd ym mlwyddyn chwech ar hyn o bryd, tan ddydd Gwener 24 Ionawr 2020 i gyflwyno eu cais. Yna byddant yn cael clywed canlyniad eu cais ddydd Llun 2 Mawrth 2020.
Mae rhieni a gofalwyr yn cael eu rhybuddio y gallai methu â chyflwyno cais erbyn y dyddiad cau arwain at wrthod rhoi lle i’w plentyn yn ei ysgol ddewisol.
Sylwer bod proses gwneud cais ar wahân yn berthnasol ar gyfer derbyn disgyblion i Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath. Dylai rhieni a gofalwyr gysylltu â’r ysgol hon yn uniongyrchol i gael ffurflen gais.
Mae rhagor o fanylion am dderbyn plant i ysgolion, yn cynnwys mapiau dalgylch, ar gael yn www.bridgend.gov.uk/derbyniadauiysgolion.