Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwneud cais am le mewn dosbarthiadau meithrin ar-lein

Bydd ceisiadau dosbarth meithrin llawn-amser ym mis Medi 2020 a rhan-amser ym mis Ionawr neu fis Ebrill 2021 agor ar 6 Ionawr 2020.

Yn ogystal â llenwi ffurflenni papur traddodiadol, gall rhieni a gofalwyr ddewis yr opsiwn mwy cyfleus o wneud cais ar-lein. Gall trigolion fewngofnodi i Fy Nghyfrif ar wefan y cyngor, sy’n golygu nad oes angen iddyn nhw fynd i'r swyddfeydd, ciwio nac aros nes bydd gweithredwr yn rhydd ar y ffôn. Bydd angen i breswylwyr lenwi'r ffurflen berthnasol ar-lein a’i chyflwyno cyn y dyddiad cau, sef 27 Mawrth 2020.

Mae ceisiadau ar-lein yn gwneud y broses derbyn plant i ysgolion yn llawer haws i rieni a gofalwyr gan ei bod yn broses gyflymach sy’n fwy cyfleus ac effeithlon.

Gyda mwy na 5,300 o geisiadau y llynedd, mae Fy Nghyfrif wedi prosesu bron i 93 y cant o’r holl geisiadau am lefydd mewn ysgolion babanod, iau neu gynradd.

Mae proses gwneud cais ar wahân ar waith ar gyfer derbyn plant i ysgolion eglwysig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, a bydd angen i rieni a gofalwyr gysylltu â'r ysgolion hynny’n uniongyrchol i ofyn am ffurflen gais. I wneud yn siŵr bod eich plentyn yn cael lle yn y dosbarth meithrin o’ch dewis, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno’ch cais cyn 27 Mawrth.

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio

Ar ôl i rieni/gofalwyr gyflwyno eu cais, byddant yn gallu gweld ei fod wedi cael ei gyflwyno yn Fy Nghyfrif, a fydd yn rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw. Byddant yn cael gwybod beth fydd canlyniad y ceisiadau am le mewn dosbarth meithrin llawn-amser ar 15 Mai 2020, a rhan-amser ym mis Tachwedd 2020.

Chwilio A i Y