Gwirfoddolwyr chwaraeon yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith yn ystod y pandemig
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 15 Rhagfyr 2020
Mae ymdrechion a gwaith caled arwyr chwaraeon ar lawr gwlad sydd wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl i gefnogi eu cymunedau drwy gydol y pandemig yn cael cydnabyddiaeth gan ymgyrch newydd.
Mae Clwb Canŵio Maesteg, sydd newydd ei ddyfarnu â grant gan y Loteri Genedlaethol, wedi cael sylw gan ei hymgyrch 'Ymroddedig i...', sydd â'r nod o ddiolch i glybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr am eu hymroddiad a charedigrwydd.
Mae'r clwb canŵio yn croesawu plant ac oedolion ac wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Clwb y Flwyddyn Canŵ Cymru yn 2018.
Ddwy flynedd yn ôl, dyma oedd y clwb gweithgareddau dŵr cyntaf yng Nghymru i sicrhau statws aur Insport Chwaraeon Anabledd Cymru - y safon uchaf y gall clwb ei chyflawni o ran creu a datblygu cynwysoldeb.
Fel pob clwb chwaraeon, gorfodwyd y clwb i ganslo sesiynau o 23 Mawrth gan y cyhoeddwyd y cyfnod clo Covid-19 cenedlaethol. Yn awyddus i atgoffa pobl ifanc bod y clwb yn parhau i fod yno, danfonwyd pecynnau meddwl.
Dywedodd cadeirydd y clwb, Emily Evans, sydd hefyd yn Glerc Ward GIG Cymru: "Roeddem am iddynt wybod ein bod yn eu methu nhw ac yn meddwl amdanynt, felly gwnaethom anfon sticeri enfys ac emojis, ffon olau a balŵn yn anrheg fach iddynt. Yn ogystal, cawsom sgyrsiau sut hwyl gyda'n gilydd i sicrhau bod pawb yn iawn."
Unwaith y gallwyd ailagor y pwll nofio, cafodd y clwb gyfarfod â phartneriaid hamdden yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i feddwl am ffordd newydd o wneud pethau.
Collodd y clwb refeniw yn y cyfnod clo, ond mae cyllid y Loteri Genedlaethol o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru wedi helpu'r clwb i ailafael ym mhethau.
Ychwanegodd Emily: "Nid gweithgaredd canŵio yn unig ydym ni'n ei ddarparu; mae'n ail gartref i'n haelodau. Rydym yn gynhwysol ac mae gennym aelodau sydd ag awtistiaeth. Mae eu hyder wedi datblygu cymaint - dywedodd un rhiant wrthym faint mae'r clwb wedi newid bywydau'r teulu cyfan.
"Rydym yn croesawu aelodau o bob gallu, ifanc a hŷn, ac rydym yn gweld cysylltiadau cryfion o gyfeillgarwch yn datblygu, sy'n hyfryd. Yn ogystal, rydym wedi cael pobl sydd wedi colli coes neu fraich yn dod i'r clwb a rhywun sydd â nam golwg. Mae croeso i bawb!"
Da iawn i Glwb Canŵio Maesteg am warchod ei aelodau yn ystod y cyfnod clo ac am eu helpu i ddal ati yn feddyliol a chorfforol.
Mae'n bleser gennyf glywed bod y clwb wedi cael cyllid i'w helpu i barhau i fod o fudd i'r gymuned yn y cyfnodau anodd hyn.
Aelod cabinet dros lesiant a chenedlaethau'r dyfodol, Dhanisha Patel