Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwirfoddoli i helpu i gadw ein cymunedau’n daclus ac yn rhydd rhag sbwriel

Ers i’r pandemig coronafeirws ddechrau, mae cannoedd o wirfoddolwyr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn helpu i gadw eu cymunedau’n daclus ac yn rhydd rhag sbwriel.

Nawr, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn annog pobl i barhau â’r gwaith da, gan gynnig ystod o offer a chymorth i wirfoddolwyr, gan gynnwys canllawiau iechyd a diogelwch.

Gellir benthyca teclynnau casglu sbwriel, festiau hi-vis, bagiau bin a chylchoedd o hybiau casglu sbwriel ledled y fwrdeistref sirol lle mae gwirfoddolwyr hefyd yn gallu cofnodi ble a phryd y casglwyd sbwriel a nifer y bagiau o sbwriel a gasglwyd ar-lein, gan helpu i roi darlun cyffredinol o'r gwaith sy'n digwydd.

Ar hyn o bryd, mae hybiau codi sbwriel wedi’u lleoli ym Mhorthcawl, Pencoed, y Pîl a Chaerau, gyda phump arall yn y broses o gael eu sefydlu.

Gall unigolion sydd eisiau cymryd rhan ond yn methu â chyrraedd hwb sbwriel gofrestru fel hyrwyddwr sbwriel gyda Cadwch Gymru’n Daclus a derbyn yr un lefel o gymorth. Fel arall, gall unrhyw grŵp ofyn am gyngor a chymorth gan Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer gweithgaredd codi sbwriel untro.

Yn ogystal â chasglu cit, gall trigolion hefyd ymuno â grwpiau cymunedol neu ddod yn hyrwyddwyr sbwriel ac elwa o gymorth, polisïau yswiriant ac iechyd a diogelwch Cadwch Gymru’n Daclus. Am ragor o wybodaeth ynghylch dod yn hyrwyddwr sbwriel, cysylltwch â Brian Jones ar 07824 504819.

Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: “Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae. Nid yn unig mae taflu sbwriel yn difetha ein hamgylchedd lleol, ond mae hefyd yn cael effaith sylweddol ar ein hiechyd, llesiant a bywyd gwyllt.

“Casglwch wrth ichi fynd drwy wneud defnydd o’r offer clirio am ddim yn eich hwb lleol. Mae’n hanfodol bod ein cymunedau, ardaloedd gwyrdd a thraethau’n cael eu cadw’n lân ac yn ddiogel i bawb eu mwynhau. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.

Hoffaf ddiolch i’r holl drigolion sydd wedi mynd i drafferth arbennig i gadw Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lân ac yn daclus yn ystod y pandemig, maent wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bawb.

Edrychwn ymlaen at agor rhagor o hybiau codi sbwriel yn y dyfodol agos, ac rydym yn annog yr holl wirfoddolwyr i gofrestru â Cadwch Gymru’n Daclus er mwyn cael mynediad at y cit priodol yn ogystal â’r polisi iechyd a diogelwch ac yswiriant perthnasol.

Dirprwy Arweinydd Hywel Williams

I gofrestru gyda Cadwch Gymru’n Daclus, neu i gael rhagor o wybodaeth am yr hybiau codi sbwriel yn eich ardal chi, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.

Chwilio A i Y