Gwerth £90,000 o gyllid wedi ei ddyfarnu ar gyfer gwelliannau i'r cae a draenio yng Nghwm Llynfi
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 31 Awst 2022
Gall dau glwb chwaraeon yng Nghwm Llynfi wneud gwelliannau i'r cae a draenio bellach ar ôl derbyn cyfuniad o £90,000, diolch i Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Rhaglen CAT y cyngor yn galluogi grwpiau cymunedol i gymryd rheolaeth dros asedau a gwasanaethau fel y gellir eu datblygu mewn modd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Derbyniodd Clwb Pêl-droed Llangynwyd Rangers £50,000 i wella dau gael pêl-droed yng Nghaeau Chwarae Llangynwyd (Llan Siro), ac mae'r clwb yn cynllunio i adnewyddu'r pafiliwn hefyd.
Nododd datganiad gan y clwb: "Rydym wrth ei bodd yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Cymuned Llangynwyd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â sefydliadau eraill megis Chwaraeon Cymru, Adfywio’r Meysydd Glo a'r FAW.
"Y gymuned sydd wrth galon y clwb a'r nod yw darparu amgylchedd sy'n agored i bawb, gan wella llesiant cymdeithasol a meddyliol pawb sy'n gysylltiedig.
"Diolch i bawb sy'n parhau i fod yn rhan o'r daith hynod gyffrous i'r clwb a'r gymuned gyfan."
Mae Clwb RF Maesteg Harlequins wedi derbyn £40,000 hefyd ar gyfer gwella'r ddau gae rygbi yn Rhodfa’r De, gyda chyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Undeb Rygbi Cymru.
Bydd cyllid a ddyfarnwyd dan y Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn sicrhau bod Clwb RFC Maesteg Harlequins a Llangynwyd Rangers yn gallu gwella arwyneb eu meysydd chwarae ar gyfer y tymor rygbi a phêl-droed newydd.
Mae'r holl gyfleusterau hyn yn cael eu defnyddio'n aml gan aelodau o'r gymuned, ac maent yn chwarae rhan allweddol yn cynorthwyo pobl i fod yn actif, wrth gynnig sawl budd i iechyd meddwl a llesiant hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Gymunedau: