Gwelliannau i faes parcio ysgol ym mhorth y cymoedd
Poster information
Posted on: Dydd Llun 27 Medi 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn buddsoddi £86,500 er mwyn gwneud gwelliannau diogelwch ychwanegol i'r maes parcio a'r man gollwng yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen.
Bydd y gwaith yn cymryd saith wythnos i'w gwblhau a bydd yn cyflwyno system unffordd newydd ar gyfer bysiau a cherbydau sy'n ymweld â'r ysgol i ollwng a chasglu disgyblion.
Bydd cyfres o dwmpathau cyflymder yn sicrhau na fydd gyrwyr yn mynd dros y terfyn cyflymder, a bydd croesfan pelican newydd yn cael ei osod i helpu i sicrhau bod disgyblion, staff ac ymwelwyr yn gallu croesi'r ffordd yn ddiogel.
Mae Alun Griffiths (Contractors) Ltd. wedi cael eu penodi i gynnal y gwaith, a fydd yn digwydd rhwng 9am a 2pm bob dydd, er mwyn osgoi'r amseroedd prysuraf o ran gollwng a chasglu.
Mae'r cyngor yn adolygu diogelwch wrth ddefnyddio safleoedd ysgol yn rheolaidd, ac mae lleoliad Coleg Cymunedol y Dderwen - ein hysgol ym 'mhorth y cymoedd' yn un mawr a phrysur iawn gyda llawer o gerbydau'n mynd a dod ar y safle ac o'i gwmpas.
Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i gadw staff, disgyblion, rhieni, gofalwyr, gwarcheidwaid ac ymwelwyr â'r ysgol yn ddiogel, a bydd bob ymdrech yn cael ei wneud i osgoi anghyfleustra ac i gwblhau'r gwaith cyn gynted â phosib.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio