Gwella llwybrau beicio yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Iau 15 Mawrth 2018
Mae gwaith ar y gweill i wella canol tref Pen-y-bont ar Ogwr i feicwyr.
Mae llwybr beicio cenedlaethol NCN 885, o Sarn i Ben-y-bont ar Ogwr, yn cael ei ehangu ar hyd Lôn y Bragdy i Stryd yr Angel er mwyn ei gysylltu â’r llwybr diogel i Gaeau Newbridge, Broadlands, Cefn Glas a Threlales.
Gall beicwyr deithio’n ddiogel i ganol y dref ar hyd Lôn y Bragdy, ger maes parcio’r Embassy a Bargain Booze, lle caiff y droetffordd ei lledu ac arwyddion newydd eu gosod.
Caiff rheiliau uwch eu gosod ar hyd pont droed Dunraven Place i wneud y llwybr yn addas i feicwyr a cherddwyr.
Ar Stryd yr Angel, bydd y man llwytho o flaen y Swyddfeydd Dinesig yn mynd yn fan parcio i’r anabl, a bydd y mannau parcio i’r anabl sydd ar y stryd ar hyn o bryd yn cael eu dileu er mwyn helpu i wella llif y traffig ar hyd y stryd, yn arbennig i gerbydau’r gwasanaethau brys.
Er mwyn helpu i greu’r mannau parcio i’r anabl oddi ar y stryd, caiff y polion baneri, sydd o flaen y Swyddfeydd Dinesig, eu symud i ochr Park Street yr adeilad.
Caiff y droetffordd lan afon ar hyd Stryd yr Angel ei lledu hefyd a chaiff rheiliau uwch eu gosod ger Pont Stryd y Dŵr i’w gwneud yn ddiogel i feicio wrth eu hymyl, a bydd y groesfan pelican ar gyffordd Stryd y Dŵr â Stryd yr Angel yn mynd yn groesfan twcan sy’n addas i feicwyr.
Caiff arwyddion eu gosod ar hyd y llwybr cyfan i amlygu’r ffaith bod cerddwyr a beicwyr yn ei ddefnyddio, a bydd arwyddion hefyd yn cyfeirio beicwyr i’r rheseli beiciau sydd ar gael yn rhan o ddatblygiad y Rhiw.
Bydd y gwaith yn dechrau ar y safle ddydd Llun 5 Chwefror a chaiff ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth.
Bydd y gwaith hwn yn defnyddio cyllid o raglen y Gronfa Drafnidiaeth Leol gan Lywodraeth Cymru i gwblhau’r darn o’r rhwydwaith beicio cenedlaethol sy’n eisiau. Bydd y gwelliannau hyn yn ei gwneud yn llawer haws beicio i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr i’r gwaith, i deithio ymhellach, neu i gyrraedd y siopau, gwasanaethau a busnesau yng nghanol y dref.
Er y gwneir pob ymdrech i achosi cyn lleied o anghyfleustra â phosibl, dylai trigolion fod yn ymwybodol y gallai fod cyfyngiadau yn y rhan hon o’r dref wrth i’r gwaith gael ei wneud. Ni fydd y mannau parcio i’r anabl presennol ar Lôn y Bragdy a Stryd yr Angel ar gael dros dro tan ddiwedd mis Mawrth.
Cynghorydd Richard Young, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r cyngor wedi penodi Centregreat Ltd yn gontractwyr y gwaith.