Gweledigaeth 2020 i gael goleuadau stryd ynni effeithiol
Poster information
Posted on: Dydd Llun 05 Mawrth 2018
Bydd pob un o’r 20,000 o oleuadau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio llusernau LED ynni effeithlon erbyn 2020.
Mae wyth mil o oleuadau stryd yn y fwrdeistref sirol wedi’u gosod â golau LED eisoes, sy’n darparu’r un golau ond yn defnyddio rhwng 30 a 60 y cant yn llai o ynni.
Nawr, o ganlyniad i fenthyciad gwerth £2.5 miliwn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi y bydd yn diweddaru’r 12,000 o oleuadau eraill.
Byddwn yn moderneiddio ein holl oleuadau stryd, gan osod rhai newydd yn lle’r goleuadau hŷn yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf.
Ni fydd angen fawr ddim o waith cynnal a chadw ar y goleuadau LED. Gellir trefnu nad yw eu golau mor llachar ar amserau penodol hefyd, a bydd hyn yn arwain at ragor o arbedion.
Mae modd pennu cyfeiriad mwy pendant i oleuadau LED, felly byddan nhw’n goleuo’r ffyrdd yn well gan nad ydynt yn goleuo mannau lle nad oes angen y golau. O ganlyniad i hyn byddan nhw’n cadw ein ffyrdd yn ddiogel i fodurwyr a cherddwyr fel ei gilydd.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau.