Gweithwyr y cyngor yn gwasgaru dros 600 tunnell o raean i gynnal y fwrdeistref sirol
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 26 Ionawr 2021
Mae mwy na 600 tunnell o raean wedi cael ei wasgaru ar ffyrdd a phalmentydd ar draws bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y tri diwrnod diwethaf, wrth i'r cyngor weithio i gynnal gwasanaethau.
Achoswyd trafferthion gan eira a rhew trwchus dros y penwythnos a dydd Llun, gan effeithio ar rai ysgolion sydd wedi bod yn cefnogi plant gweithwyr allweddol, a chasgliadau ailgylchu a gwastraff.
Gweithiodd staff y priffyrdd drwy oriau man fore dydd Sul a phob awr o'r dydd yn y tywydd garw i gadw'r prif lwybrau'n glir.
Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol megis preswyl, cartref a byw gyda chymorth yn parhau i weithredu fel arfer, ac mae staff yn sicrhau bod preswylwyr bregus yn iach a diogel.
Mae gan y fwrdeistref sirol fwy na 450 o finiau graean, ac maent wedi cael eu hail-lenwi yn ystod y diwrnodau diwethaf, a chânt eu gwirio eto yr wythnos hon. Mae oddeutu 1,750 tunnell o raean ychwanegol wedi ei storio gan y cyngor.
Mae canolfannau brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar agor, ac mae apwyntiadau'n mynd yn eu blaenau fel arfer.
Dydd Sul, helpodd gwirfoddolwyr i glirio eira o faes parcio Ysbyty Cymunedol Maesteg, fel bo hyd at 300 o gleifion yn gallu derbyn eu brechlyn Covid-19.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: "Llawer o ddiolch i staff y cyngor sydd wedi gweithio drwy'r tywydd garw fel bo gwasanaethau allweddol yn gallu gwneud eu gwaith, a hefyd i breswylwyr am yr ymdrech gymunedol a ddangoswyd ganddynt er mwyn helpu eraill.
"Gwnaeth ymdrechion y gwirfoddolwyr ym Maesteg a helpodd i sicrhau bod preswylwyr bregus yn cael eu brechlyn coronafeirws greu argraff arnaf.
"Gwnaed pob ymdrech i gynnal gwasanaethau, ac rwy'n gofyn yn garedig i breswylwyr fod yn amyneddgar wrth i'n partner gwastraff, Kier, weithio drwy'r gwastraff ac ailgylchu ychwanegol a fethwyd i'w casglu ddydd Llun."
Bydd yr holl ysbwriel a gwastraff AHP a fethwyd eu casglu ddydd Llun neu ddydd Mawrth yn cael eu casglu ddydd Sadwrn 30 Ionawr, a bydd yr ailgylchu a fethwyd eu gasglu yn cael ei gasglu fel rhan o'r casgliad trefnedig nesaf, h.y. dydd Llun a dydd Mawrth yr wythnos nesaf.
Gall unrhyw gartref sydd wedi ei effeithio gan y trefniant dros dro hwn, sydd â chynhwysyddion ailgylchu llawn, ddefnyddio bagiau i drefnu a gosod eu heitemau i'w casglu, neu focsys cardbord.
Fel arall, gellir mynd â gwastraff ac ailgylchu ychwanegol i un o'r tair canolfan ailgylchu cymunedol sydd wedi'u lleoli yn Llandudwg, Brynmenyn a Maesteg.
Mae'r casgliadau ailgylchu a gwastraff eraill yr wythnos hon wedi'u trefnu i barhau yn ôl yr arfer.
Am fwy o fanylion am sut mae'r cyngor yn delio â thywydd garw, ewch i dudalennau gwe tywydd gaeafol.