Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gweithwyr priffordd yn delio â difrod Storm Francis ar draws y fwrdeistref

Ddoe, roedd criwiau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio drwy'r dydd a nos i ddelio â difrod wedi storm ar draws y fwrdeistref sirol.

Bu gweithwyr priffordd yn delio â nifer o goed wedi disgyn a materion llifogydd, a bu i'r gwyntoedd cryfion hefyd ddifrodi to Canolfan Chwaraeon Dŵr Rest Bay, Porthcawl.

Disgynnodd goed ar nifer o ffyrdd yn cynnwys ffordd osgoi Abercynffig  A4063, yr A48 rhwng Cylchfan Ewenni a Chylchfan Broadlands, yr A4061 Aber Road Pricetown, Waterton Lane, Maes-y-felin ym Melin Wyllt ac Eleanor Close ym Mhencoed.

Yn y cyfamser, mae gwaith adnewyddu pellach yn digwydd yn  Llangeinor, ar ffordd gul lle mae coeden wedi disgyn yn agos at dai. 

Mae'r Bont Drochi ar Ffordd New Inn, Merthyr Mawr, yn parhau ar gau ar hyn o bryd, gyda gwaith yn cael ei gynnal i glirio'r gweddillion ar ôl i'r afon fynd i i lefel dwr yr afon ostwng. Disgwylir i'r ffordd ail agor yn ystod y prynhawn.

Bwriedir i waith adnewyddu ddigwydd heddiw ar do'r Ganolfan Chwaraeon Dŵr yn Rest Bay.

Chwilio A i Y