Gweithredu toiledau cyhoeddus yn wahanol, er mwyn osgoi eu cau
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 22 Mehefin 2018
Mae dau safle toiledau a weithredir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn debygol o gael eu newid yn rhai y bydd angen talu i’w defnyddio o fewn y flwyddyn nesaf, a bydd angen cau tri arall oni bai bod cynghorau tref yn cytuno i’w gweithredu o hyn ymlaen.
Mae Aelodau Cabinet o’r awdurdod lleol wedi cytuno, yr wythnos hon, ar y camau nesaf ar gyfer y cyfleusterau ar ôl rhybuddio bod angen gwneud newidiadau i’r ffordd y cânt eu gweithredu gan fod cymaint o leihad wedi bod yn y cyllidebau.
I helpu i lywio eu penderfyniadau, cynhaliodd y cyngor ymgynghoriad cyhoeddus wyth wythnos o hyd yn gynharach eleni i gael gwybod pa doiledau y mae pobl yn dibynnu arnynt fwyaf.
Toiledau gorsaf fysiau Pen-y-bont ar Ogwr oedd y cyfleusterau mwyaf poblogaidd, wrth i 89 y cant o’r 1,137 o’r ymatebwyr i’r arolwg ddweud eu bod yn eu defnyddio, a 60 y cant yn dibynnu arnynt bob wythnos.
O ystyried y galw amdanynt gan y trigolion, mae Aelodau’r Cabinet wedi cytuno y dylai toiledau’r orsaf fysiau aros ar agor, ond byddant yn cael eu troi yn rhai y bydd angen talu i’w defnyddio er mwyn bod yn fwy hunangynhaliol.
Dywedodd pum deg pedwar y cant o ymatebwyr yr arolwg y byddent yn barod i dalu i ddefnyddio toiledau cyhoeddus.
Mae’n debygol hefyd y bydd y toiledau cyhoeddus newydd sy’n cael eu hadeiladu yn rhan o’r ganolfan chwaraeon dŵr newydd ym Mae Rest, Porthcawl yn cael eu cynllunio fel cyfleusterau talu i’w defnyddio.
Canfu’r ymgynghoriad cyhoeddus mai’r toiledau y dibynnir arnynt fwyaf ym Mhorthcawl yw’r rhai ar John Street, a ddefnyddir gan 77 y cant o ymatebwyr yr arolwg.
Y dewis a ffefrir ar gyfer dyfodol y toiledau hynny yw i Gyngor Tref Porthcawl gymryd y cyfrifoldeb am eu gweithredu drwy Drosglwyddiad Ased Cymunedol. Mae trafodaethau eisoes ar y gweill â chyngor y dref ynghylch toiledau Parc Griffin, ac os na fydd yn bosibl dod i gytundeb, bydd y ddau safle yn cau.
Mae trafodaethau tebyg wedi eu cynllunio â Chyngor Tref Maesteg ynghylch cymryd y cyfrifoldeb am gynnal a chadw’r toiledau yn ymyl gorsaf fysiau Maesteg.
Mae cynlluniau hirdymor i doiledau newydd fod yn rhan o Neuadd Tref Maesteg yn rhan o’r gwaith ailwampio, ond yn y cyfamser, cyd y cyngor yn gofyn i Gyngor Tref Maesteg a yw’n fodlon cymryd y cyfrifoldeb am weithredu’r toiledau tan hynny. Os nad yw’n dymuno gwneud hynny, bydd y toiledau’n cau.
Y toiledau yn Cheapside ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o gau. O ystyried pa mor agos ydynt i’r cyfleusterau rhagorol yn ASDA, mae Aelodau’r Cabinet wedi argymell eu cau, ond cynhelir trafodaethau â pherchnogion y ganolfan siopa gyfagos i ddechrau i weld a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn cynnwys y toiledau cyhoeddus mewn unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol.
Oherwydd y sefyllfa ariannol, ni allwn ni barhau i weithredu toiledau cyhoeddus yn y modd yr ydym ni’n ei wneud ar hyn o bryd. Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau, roeddem eisiau casglu barn y cyhoedd a hoffwn ddiolch i bawb a dreuliodd amser yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae hon wedi bod yn broses hynod anodd ac rydym ni’n cydnabod bod pobl yn ystyried bod toiledau cyhoeddus yn gyfleusterau pwysig
Rydym ni’n gwneud pob ymdrech i geisio dod o hyd i atebion a dulliau eraill o’u darparu, ac rydym wedi gofyn i gynghorau tref a chymuned, grwpiau lleol, busnesau preifat a mwy i weithio gyda ni.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau
“Rwy’n falch o weld bod rhai, fel Cyngor Tref Pencoed, eisoes wedi croesawu hyn fel ffordd o wneud buddsoddiadau newydd yn ein cymunedau lleol, ac mae gennyf bob ffydd y bydd y trafodaethau sydd ar waith â’r partneriaid eraill yn arwain at ganlyniadau tebyg hefyd.”
Mae’r cyngor hefyd yn gweithredu cynllun cysur sy’n rhoi grantiau bach o hyd at £500 y flwyddyn i fusnesau canol trefi lleol sy’n fodlon agor eu toiledau i gwsmeriaid heb orfod talu. Yn rhan o’r ffordd ymlaen y cytunwyd arni, cymeradwyodd yr Aelodau Cabinet hefyd y dylid hybu’r cynllun ymhellach ac annog busnesau lleol i agor eu cyfleusterau nhw ar gyfer y cyhoedd i helpu i gymryd lle unrhyw gyfleusterau cyhoeddus y byddai o bosibl angen eu cau.