Gweithdrefnau newydd ar gyfer y pandemig wedi'u cyflwyno ar fysiau First Cymru
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 03 Mehefin 2020
Mae'r cwmni trafnidiaeth gyhoeddus First Cymru wedi cyflwyno mesurau ar draws pob un o'i wasanaethau sydd wedi'u cynllunio i helpu i gadw teithwyr yn ddiogel a chyfyngu ar y posibilrwydd o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws COVID-19.
Gyda chapasiti llai o 25%, er mwyn sicrhau y gall teithwyr aros dau fetr ar wahân, mae'r cwmni'n defnyddio cymysgedd o gerbydau ar nifer o'i lwybrau prysuraf er mwyn sicrhau bod gweithwyr allweddol yn gallu parhau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith.
Bydd ffenestri'n cael eu cadw ar agor er mwyn sicrhau llif aer cyson, ac mae sashiau wedi cael eu gosod ar seddi i nodi ble mae teithwyr yn gallu eistedd. Ni chaniateir bwyta nac yfed, a bydd angen i deithwyr olchi eu dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio cyn ac ar ôl defnyddio gwasanaeth bws.
Unwaith y bydd bws wedi cyrraedd ei gapasiti o 25%, bydd arwydd ‘LLAWN’ i’w weld ar flaen y cerbyd. Bydd y bws ond yn galw mewn arosfannau bysiau er mwyn gadael i deithwyr adael, a bydd proses ‘un yn ymuno, un yn gadael’ ar waith. Yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru, cynghorir pobl i weithio gartref lle bo hynny'n bosibl ac ond i wneud teithiau hanfodol ar gyfer eitemau megis bwyd neu feddyginiaeth.
Mae cwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu gweithwyr allweddol i deithio'n ddiogel rhwng eu cartrefi a'r gwaith yn ystod y pandemig, a hoffwn hefyd ddiolch i'r gyrwyr am eu hymdrechion.
Fel rhan o fenter gan Lywodraeth Cymru, mae gweithwyr allweddol yn gallu teithio yn rhad ac am ddim, a gofynnir i deithwyr sy'n talu am docynnau teithio i wneud taliadau heb arian parod lle bo hynny'n bosibl er mwyn cyfyngu ar y risg o ddod i gysylltiad â'r feirws ac i helpu i ddiogelu gyrwyr a theithwyr fel ei gilydd.
Cynghorydd Richard Young, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau
Gyda gwasanaethau fel gwasanaeth 63 rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl yn cynyddu i bob 30 munud, mae amserlen o'r llwybrau bysiau diweddaraf sy'n cwmpasu Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i chyhoeddi ar wefan First Cymru.
Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion ac amserlenni ar gyfer darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus leol eraill ar wefannau Easyway, Peyton Travel a Stagecoach.