Gwefan newydd yn dwyn ynghyd iechyd, llesiant, gofal cymdeithasol, addysg a’r sector gwirfoddol
Poster information
Posted on: Dydd Iau 01 Gorffennaf 2021
Mae gwefan newydd ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg wedi'i chyhoeddi i dynnu sylw at ymdrechion lleol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a gwella gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant ar draws ardaloedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Wedi'i gynllunio gyda mewnbwn gan drigolion a sefydliadau lleol, nod y wefan newydd yw darparu llwyfan a fydd yn ysbrydoli pobl leol, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ac yn eu hannog i gymryd rhan.
Mae meysydd o flaenoriaeth ar gyfer y bwrdd yn cynnwys pobl ag anableddau dysgu, anableddau corfforol, nam ar y synhwyrau, materion iechyd meddwl, pobl awtistig, gofalwyr di-dâl, pobl ifanc, plant a phobl hŷn.
Ynghyd â'i bartneriaid, mae'r bwrdd yn ceisio cyflymu a gwella gwasanaethau a chymorth i ddarparu gwell canlyniadau iechyd a llesiant.
Bydd y wefan newydd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi Asesiad Anghenion Poblogaeth rhanbarthol y bwrdd, sy'n digwydd bob pum mlynedd ac sy'n cael ei datblygu mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol, sefydliadau a thrigolion.
Yn ogystal â helpi pobl i gymryd rhan a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt, bydd y wefan hefyd yn canolbwyntio ar brosiectau fel y Gronfa Gofal Integredig gwerth £12m, y Rhaglen Weddnewid gwerth £7m a gwaith y Ganolfan Cydgysylltu Ymchwil, Arloesi a Gwella sy'n ceisio osgoi dyblygu ymdrechion a galluogi rhannu arfer da.
Gallwch ymweld â'r wefan newydd a darganfod mwy yn www.ctmregionalpartnershipboard.co.uk