Gwastraff ac ailgylchu yn ystod pandemig y coronafeirws: ateb eich cwestiynau
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 22 Ebrill 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn nifer fawr o sylwadau ac ymholiadau am ailgylchu a gwastraff yn ystod pandemig parhaus y coronafeirws COVID-19. Yma, mae'r Cynghorydd Richard Young, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, yn ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin.
C: Pam nad yw’r cyngor yn cynyddu’r terfyn gwastraff dau fag bob pythefnos pan mae mwy o wastraff yn cael ei greu oherwydd bod pobl yn treulio mwy o amser gartref oherwydd y cyfyngiadau symud?
Y Cynghorydd Young: Yn gyntaf, mae'r swm sylweddol o wastraff ychwanegol sy'n cael ei roi allan fel sbwriel yn cynnwys eitemau y mae modd eu hailgylchu yn bennaf. Heb unrhyw gyfyngiadau ar swm yr ailgylchu y mae modd ei roi allan, ni ddylai'r rhan fwyaf o aelwydydd gael unrhyw broblemau cyhyd â'u bod yn defnyddio eu gwasanaeth ailgylchu i'r eithaf oherwydd ychydig iawn fydd ar ôl i fynd i'r bag sbwriel.
Yr ail beth y dylai pobl sylweddoli yw bod Kier yn gweithredu gan ddefnyddio hyd at 25% o'i weithlu arferol ar hyn o bryd, ac mae llawer o'i staff yn hunanynysu oherwydd y pandemig. Mae hyn yn golygu os bydd mwy o sachau'n cael eu rhoi allan i'w casglu, bydd yn cymryd mwy o amser i'w casglu, ac efallai na fydd rowndiau dyddiol yn cael eu cwblhau.
Y ffordd orau o sicrhau y gall casgliadau barhau yn ôl yr arfer drwy gydol y pandemig yw gofyn i aelwydydd ailgylchu i'r eithaf a chadw at y terfyn dau fag. Bydd hyn yn golygu nad oes angen i unrhyw un golli allan, ac y gall rowndiau gael eu rheoli mewn ffordd ddiogel a chael eu cwblhau ar amser er gwaethaf yr amgylchiadau hynod heriol.
Byddwn yn parhau i adolygu'r sefyllfa wrth i amser fynd yn ei flaen, ond yn gyffredinol rydym wedi derbyn sylwadau cadarnhaol iawn am y gwaith y mae’r criwiau wedi bod yn ei wneud. Maent yn rhan o garfan o 'arwyr di-glod' yr argyfwng, ac rydym yn diolch i breswylwyr am werthfawrogi eu gwaith yn ystod y cyfnod heriol hwn.
C: A yw'r cyfyngiad dau fag o wastraff yn arwain at gynnydd mewn tipio anghyfreithlon?
Y Cynghorydd Young: Er gwaethaf y pandemig, rydym yn parhau i ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff swmpus, a chydag aelwydydd yn cael rhoi cymaint o wastraff ailgylchu allan ag sydd angen, nid oes unrhyw reswm gan unrhyw un i dipio gwastraff yn anghyfreithlon. Mae hyn yn arbennig o anghyfrifol yn ystod argyfwng cenedlaethol, ac er ein bod wedi gweld cynnydd yn yr adroddiadau am dipio anghyfreithlon, rydym yn ei glirio mor gyflym â phosib dan yr amgylchiadau.
Mae angen i bawb geisio helpu yn ystod y pandemig, a hyd nes y gall pethau ddychwelyd i'r drefn arferol, rydym wedi gofyn i aelwydydd storio unrhyw wastraff nad oes modd ei ailgylchu neu ei roi allan i gael ei gasglu nes bydd y canolfannau ailgylchu cymunedol yn ailagor.
Rydym yn ymwybodol bod nifer o fusnesau'n cynnig gwasanaethau 'casglu gwastraff' yn ystod y pandemig, ac er bod gan rai ohonynt drwyddedau gwastraff, nid oes trwydded gan lawer o rai eraill. Mae'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn cynnal gwiriadau, a bydd y cyngor yn cymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw un sy'n tipio'n anghyfreithlon.
C: Pam nad ydych yn ailagor y Canolfannau Ailgychu Cymunedol?
Y Cynghorydd Young: Y rheswm yn bennaf yw oherwydd bod llawer o'r staff ar bob safle wedi cael eu hadleoli i sicrhau y gall y casgliadau ailgylchu a sbwriel dyddiol barhau, ond hefyd mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ailadrodd sawl gwaith mai dim ond teithio hanfodol ddylai fod yn digwydd, ac y dylai mesurau cadw pellter cymdeithasol barhau.
Mae'n amhosib sicrhau hyn mewn canolfannau ailgylchu cymunedol, ac nid yw 'teithiau i'r domen' yn deithiau hanfodol. Mae'r sefyllfa'n cael ei monitro'n agos iawn, ac rydym yn bwriadu ailagor y safleoedd cyn gynted â'i bod yn ddiogel gwneud hynny.
C: Pam mae'r gwasanaeth casglu gwastraff gardd wedi dod i ben?
Y Cynghorydd Young: Yr unig reswm y daeth hwn i ben yw oherwydd bod y contractiwr sy'n compostio'r gwastraff gardd wedi peidio â darparu'r gwasanaeth hwn oherwydd effeithiau'r pandemig.
Mae holl gwsmeriaid y gwasanaeth yn derbyn ad-daliad llawn wrth i ni chwilio am ddarparwr arall. Os gall hyn gael ei drefnu’n gyflym, rydym yn gobeithio y gallwn ailddechrau'r gwasanaeth dros yr wythnosau nesaf - cadwch lygad allan am fwy o newyddion am hyn.
Pam mae dau neu dri aelod o staff Kier yn cael eu gweld gyda'i gilydd ym mhob cerbyd sbwriel er gwaethaf rheoliadau'r llywodraeth i gadw pellter cymdeithasol yn y gweithle?
Y Cynghorydd Young: Mae rheoliadau'r llywodraeth yn cael eu hystyried - mae'n bwysig cofio eu bod yn cynnwys rhai eithriadau yn seiliedig ar ba mor rhesymol ydynt. Er enghraifft, ni fyddai disgwyl i Kier logi neu brynu cerbydau fflyd ychwanegol er mwyn lleihau nifer y staff ym mhob cerbyd.
Ond disgwylir iddynt weithredu mesurau eraill i liniaru unrhyw risgiau, ac maent wedi rhannu eu canllawiau gyda ni sy'n dangos eu bod wedi cyflwyno cyfarpar diogelu personol priodol, eu bod wedi gweithredu mesurau hylendid a'u bod wedi addasu arferion gwaith yn briodol.
A yw casglwyr sbwriel y cyngor yn dal i weithio yn ôl yr arfer?
Y Cynghorydd Young: Ydyn, rydym yn parhau i ddefnyddio casglwyr sbwriel mewn ardaloedd blaenoriaethol. Byddech yn disgwyl i finiau sbwriel fod yn wag yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud, ond rydym yn gweld bod pobl yn eu defnyddio i gael gwared ar fwyd a gwastraff arall y cartref - sy'n ddiangen oherwydd gall aelwydydd roi cymaint o wastraff ailgylchu allan ag y dymunant. Felly, mae ein staff yn eu gwacáu i atal problemau eraill megis fermin.
A allent gael eu defnyddio'n well yn rhywle arall? Gallent, siŵr o fod. Mae rhai aelodau'r staff wedi cael eu hyfforddi fel y gallant helpu gyda chasgliadau gwastraff, er enghraifft, ac os byddai pobl yn defnyddio'r system ailgylchu'n gywir gan atal y biniau rhag llenwi, gallem edrych ar feysydd eraill lle byddent yn gallu cynnig cymorth.
Beth arall y gall preswylwyr ei wneud i helpu yn ystod y cyfnod hwn?
Y Cynghorydd Young: Os yw pobl yn hunanynysu, dylent roi eu sbwriel mewn dau fag er mwyn helpu i atal y feirws rhag lledaenu. Os ydych yn gwybod bod y feirws yn eich cartref, arhoswch o leiaf 72 awr cyn rhoi eich gwastraff allan i gael ei gasglu. Er mwyn helpu lorïau sbwriel a cherbydau eraill i gwblhau eu rowndiau, parciwch mewn modd ystyriol a gadewch ddigon o le iddynt fynd trwyddo.
Gallwch helpu i gadw'n casglwyr sbwriel yn ddiogel drwy gadw at y canllawiau cadw pellter cymdeithasol. Defnyddiwch y gwasanaeth casglu gwastraff swmpus, neu storiwch eich eitemau yn eich cartref nes bydd y canolfannau ailgylchu cymunedol yn ailagor.
Gyda siopau elusennau wedi cau a banciau dillad ddim yn cael eu gwagio, cadwch unrhyw roddion dillad nes y bydd modd eu derbyn unwaith eto. Mae ein staff yn ceisio clirio unrhyw fagiau sy'n cael eu rhoi yn y lleoliadau hyn, ond mae dal yn cael ei ystyried fel tipio anghyfreithlon ac mae yn erbyn y gyfraith.