Gwasanaethau'r cyngor a rhai ysgolion yn cael eu heffeithio gan eira a rhew trwm
Poster information
Posted on: Dydd Llun 25 Ionawr 2021
Mae eira a rhew trwchus yn parhau i achosi trafferth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan effeithio ar rai gwasanaethau.
Mae staff priffyrdd wedi bod yn gweithio bob awr o'r dydd drwy'r tywydd garw i warchod y fwrdeistref sirol. Mae'r prif lwybrau'n glir, a bydd y gweithwyr yn defnyddio'u hadnoddau i glirio a thrin ffyrdd eilradd.
Mae casgliadau ailgylchu a gwastraff yn digwydd, ond mae nifer o strydoedd bychain yn anhygyrch i'r cerbydau casglu, ac ni ellir eu defnyddio'n ddiogel. Ar hyn o bryd, mae criwiau'n canolbwyntio ar briffyrdd, a byddant yn ceisio clirio strydoedd bychain wrth i bethau wella.
Mae'r sefyllfa'n cael ei monitro, a bydd diweddariadau pellach yn cael eu cyhoeddi drwy gydol y dydd. Yn y cyfamser, mae'r tair canolfan ailgylchu cymunedol yn Llandudwg, Brynmenyn a Maesteg ar agor, a gellir eu defnyddio gyda gofal.
Mae nifer o ysgolion, yn cynnwys rhai sydd wedi bod yn cefnogi plant gweithwyr allweddol, wedi methu ag agor yn ddiogel:
- Ysgol Gynradd Trelales.
- Ysgol Bryn Castell.
- Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair a Sant Padrig.
- Ysgol Gynradd Nantyffyllon.
- Ysgol Gynradd Betws
Mae ysgolion eraill wedi dweud efallai y bydd yn rhaid iddynt aros ar gau, er eu bod nhw'n gwneud pob ymdrech i agor.
Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol megis preswyl, cartref a byw gyda chymorth yn parhau i weithredu fel arfer, ac mae staff yn sicrhau bod preswylwyr bregus yn iach a diogel.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau fod pob un o'i pedair canolfan frechu gymunedol ar agor, ac mae apwyntiadau'n myned yn eu blaenau fel arfer.
Symudwyd nifer fawr o apwyntiadau ymlaen fel y gellid eu cwblhau cyn i'r tywydd garw ddechrau, ond gall unrhyw un sydd ag apwyntiad wedi ei aildrefnu ac a allai fod ag ymholiadau pellach gysylltu â'r rhif ffôn a ddarperir ar eu llythyr apwyntiad.
Mae gwefan y bwrdd iechyd hefyd yn cynnwys adran bwrpasol o fewn y dudalen Cwestiynau Cyffredin ar ei gwefan gorfforaethol, https://cwmtafmorgannwg.wales/covid-19-vaccine/
Fodd bynnag, gan fod y tywydd garw wedi effeithio ar drefniadau profi symudol o fewn y fwrdeistref sirol, cynghorir preswylwyr i gyfeirio at wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer y datblygiadau a'r wybodaeth ddiweddaraf.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: "Gall ôl-effeithiau tywydd garw fod yr un mor drafferthus â'r eira ei hun, ond rydym yn gwneud pob ymdrech i redeg gwasanaethau mor ddidrafferth â phosib.
"Hoffwn ddiolch i staff y cyngor y mae eu hymdrechion yn ystod y tywydd garw wedi sicrhau ein bod ni'n gallu parhau i gynnal gwasanaethau allweddol, a bod eich preswylwyr mwyaf bregus wedi cael eu diogelu.
"Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pellach drwy gydol y dydd, ond os hoffech chi ddysgu mwy am sut mae'r cyngor yn delio â thywydd garw, ewch i'n gwefan."
- Am fwy o fanylion, ewch i dudalennau gwe tywydd gaeafoly cyngor yn bridgend.gov.uk