Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwasanaethau newydd ar-lein ar gael drwy ‘Fy Nghyfrif’

Yn ystod yr wythnos nesaf, bydd gwasanaethau ychwanegol a hafan newydd yn cael eu hychwanegu i ‘Fy Nghyfrif, sef y gwasanaeth personol ar-lein ar gyfer trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

O ddydd Llun 4 Ebrill, bydd trigolion yn gallu adrodd am broblemau megis pla o lygod mawr, llygod bach, pỳcs a chwilod du ar-lein drwy'r porth hwn.

Yn ogystal â hyn, bydd trigolion yn gallu mynd ar-lein i adrodd am unrhyw ddifrod neu oleuadau stryd wedi torri ar draws y fwrdeistref sirol drwy ‘Fy Nghyfrif', gan ein hysbysu ni o unrhyw faterion yn llawer cynt.

Gellir gwneud adroddiad ar-lein yn gyflym a didrafferth. Byddwch hefyd yn derbyn cadarnhad drwy e-bost er mwyn gadel i chi gwybod bod eich cais wedi'i dderbyn yn llwyddiannus.

Gall trigolion sydd eisiau defnyddio'r gwasanaethau newydd hyn ar-lein hefyd reoli eu treth gyngor, budd-daliadau, a gwasanaethau tai drwy ‘Fy Nghyfrif’.

Dywedodd Carys Lord, Prif Swyddog y cyngor dros Gyllid, Perfformio a Newid: "Mae'n gyfnod cyffrous wrth i ni nesáu at gyflwyno mwy o wasanaethau ar-lein fydd ar gael i'n trigolion ar unrhyw adeg, o gysur eu cartrefi.  

"Wrth i ni barhau i ddatblygu rhagor o wasanaethau ar-lein, rydym hefyd yn gwrando ar ein trigolion ac yn gweithredu ar eu hadborth er mwyn gwella ‘Fy Nghyfrif ar y cyfan, fel y gellir ei ddefnyddio'n fwy rhwydd.

"Rydym yn parhau i ddibynnu ar ein trigolion i ddarparu adborth gwerthfawr i helpu i siapio ein gwasanaethau ar-lein, a byddwn yn gwneud rhagor o waith gyda nhw yn y dyfodol agos er mwyn datblygu'r llwyfan ar-lein ymhellach."

Ewch i wefan y cyngor a chlicio ar ‘Fy Nghyfrif’ ar frig y dudalen hafan i gofrestru.

Chwilio A i Y