Gwasanaethau iechyd yn cael eu gohirio oherwydd cynnydd mewn achosion
Poster information
Posted on: Dydd Iau 17 Rhagfyr 2020
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cychwyn gohirio rhai gwasanaethau, er mwyn adleoli staff i gynorthwyo gyda chynnal gweithredoedd craidd a brys yn dilyn cynnydd mewn nifer o achosion Covid-19.
Mewn cyfarfod llawn gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ddydd Mercher 16 Rhagfyr, dywedodd Paul Mears, prif swyddog gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fod 116 claf yn cael eu trin ar hyn o bryd ar gyfer Covid-19, neu'n adfer ar ei ôl, yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Mae 53 claf ychwanegol yn adfer yn Ysbyty Seren, ysbyty maes Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Mr Mears: "Mae'r gyfradd uchel ofnadwy o haint yn ein hardal - un o'r uchaf yn y DU, nid Cymru yn unig - yn rhoi pwysau sylweddol ar ein gwasanaethau. Wrth edrych ymlaen at fis Ionawr, rydym yn disgwyl cynnydd sylweddol, sy'n golygu y bydd yn rhaid i ni edrych ar ba wasanaethau y gallwn eu darparu yn y Flwyddyn Newydd, a beth fydd yn rhaid ei ohirio fel bod adnoddau ar gael."
Mae nifer o staff iechyd a gofal cymdeithasol yn absennol o'r gwaith gyda Covid-19 yng Nghwm Taf Morgannwg, ac mae hyn yn codi heriau ychwanegol o ran darparu gwasanaethau. Mae'r bwrdd iechyd wedi cyhoeddi:
- Bydd yr holl glinigau nad yw'n frys i gleifion allanol yn cael eu gohirio - mae hyn yn cynnwys wyneb yn wyneb ac ar-lein
- Bydd yr holl lawdriniaethau nad yw'n frys a gynlluniwyd yn cael eu gohirio
- Bydd yr holl glinigau nyrs arbenigol yn cael eu gohirio
- Bydd yr holl wasanaethau diagnostig nad yw'n frys (e.e. radioleg/endosgopi) yn cael eu gohirio
- Bydd yr holl wasanaethau canser brys a chleifion clinigol brys yn parhau i gael eu gweld
Bydd y bwrdd iechyd yn cyhoeddi diweddariadau os bydd unrhyw newidiadau pellach. Mae'n gweithio i sicrhau y rhyddheir cleifion sy'n ffit yn feddygol, nad oes angen gofal ysbyty arnynt mwyach, yn gyflym, a bod rhaglen brechlyn Covid-19 yn parhau i gael ei darparu.
Yn y cyfarfod ddydd Mercher, dywedodd Mr Mears fod y bwrdd iechyd yn gweithio gyda chydweithwyr yn y cyngor i geisio cyfyngu'r amser mae cleifion yn disgwyl i adael yr ysbyty, drwy sicrhau bod cymorth ar waith iddynt, er mwyn dychwelyd i'w cartrefi neu gartref gofal yn ddiogel.
Dywedodd nad oedd cyfleusterau yn yr ysbyty maes i ynysu pobl yn hawdd, wrth egluro pam fod Ysbyty Seren yn cael ei defnyddio ar gyfer y bobl hynny sy'n adfer ar ôl cael Covid-19 yn unig, yn hytrach na chleifion gyda'r feirws.
Mae sefyllfa ddifrifol yn ein hwynebu, o ganlyniad i'r cynnydd mewn achosion o goronafeirws. Mae gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu pwysau ychwanegol o ganlyniad i gynnydd mewn absenoldeb staff, un ai oherwydd Covid-19 neu am eu bod angen hunanynysu.
Byddwn yn annog bob preswyliwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr i barhau i ddilyn canllawiau ar wisgo gorchudd wyneb, cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo, ac ystyried goblygiadau posib eu gweithredoedd.
Os allwn weithredu nawr, gallwn helpu i ddiogelu ein ffrindiau, teuluoedd, cymdogion a'n hunain rhag y feirws marwol hwn.
Aelod cabinet dros wasanaethau cymdeithasol a chymorth cynnar, Nicole Burnett
Os byddwch yn datblygu symptomau coronafeirws, megis tymheredd uchel, peswch newydd, parhaus neu'ch bod wedi colli neu wedi sylwi newid yn eich synnwyr arogli neu flasu, mae'n rhaid i chi hunanynysu ar unwaith a gwneud trefniadau am brawf coronafeirws.
Am ganllawiau ar hunanynysu, ewch i wefan Llywodraeth Cymru ac am fanylion am brofion Covid-19, ffoniwch 119 neu ewch i'r dudalen coronafeirws ar wefan Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth am y newidiadau dros dro i wasanaethau, ewch i wefan Cwm Taf Morgannwg.