Gwasanaethau bws i gynyddu ar draws y fwrdeistref sirol o 1 Medi
Poster information
Posted on: Dydd Iau 27 Awst 2020
O ddydd Mawrth, 1 Medi, mae First Cymru Buses Ltd yn ailgyflwyno a chynyddu nifer o wasanaethau bws ar draws y fwrdeistref sirol.
Ymhlith y gwasanaethau sy'n cael eu hailgyflwyno mae Gwasanaeth Rhif 64 (Pen-y-bont ar Ogwr i Donysguboriau) a Gwasanaeth Rhif 71 (Pen-y-bont ar Ogwr i Gymer), yn ogystal â'r llwybr llawn ar Wasanaeth Rhif 65 (Pen-y-bont ar Ogwr i Donysguboriau, drwy Heol-y-cyw).
Yn y cyfamser bydd cynnydd i amlder gwasanaethau megis Gwasanaeth Rhif 63 (Pen-y-bont ar Ogwr i Borthcawl), Gwasanaeth Rhif 72 (Pen-y-bont ar Ogwr i Flaengarw), Gwasanaeth Rhif 74 (Pen-y-bont ar Ogwr i Nant-y-moel), Gwasanaeth Rhif 76 (Pen-y-bont ar Ogwr i Fetws) a Gwasanaeth Rhif X1 (Pen-y-bont ar Ogwr i Abertawe).