Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwasanaeth gwell i blant lleol

Mae gwelliannau i'r ffordd y mae plant yn derbyn gofal a chymorth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn bosibl o ganlyniad i ailwampio ei gwasanaeth lleoli ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Wedi'u dylunio i sicrhau y gall y cyngor a'i bartneriaid barhau i amddiffyn a helpu plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed mor effeithiol â phosibl, mae'r gwelliannau wedi'u gwneud ym mhob rhan o’r gwasanaeth.

Maent yn cynnwys datblygiadau newydd mewn dau gartref gofal lleol, sy'n helpu i atal yr angen i blant gael eu lleoli y tu allan i'r ardal.

Mae Maple Tree House wedi cael ei adnewyddu i ddarparu amgylchedd cysurol i blant rhwng wyth ac 18 oed. Gall y staff ddod i adnabod y plant o fewn lleoliad cyfforddus a chartrefol, wrth iddynt ddatblygu gwell dealltwriaeth o ba gymorth hirdymor a allai fod yn angenrheidiol.

Wrth i'w hanghenion gael eu hasesu, mae gweithwyr proffesiynol hyfforddedig wrth law 24 awr y dydd i gynnig y math cywir o gymorth ymarferol a therapiwtig i blant.

Gan gynnwys pedwar gwely asesu tymor byr yn ogystal â chyfleusterau ar gyfer dau leoliad argyfwng, golyga'r gwelliannau y bydd Maple Tree House yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i gadw plant o fewn yr ardal yn hytrach na gorfod eu lleoli ymhellach i ffwrdd.

Yn rhan o'r ailwampio, mae cartref preswyl Sunnybank hefyd wedi'i ddatblygu fel y gall gynnig lefelau cymorth gwell i blant a phobl ifanc sydd angen gofal mewn lleoliad preswyl dros gyfnod hirach.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn recriwtio a hyfforddi gofalwyr maeth dros dro a fydd yn helpu pobl ifanc i symud tuag at eu nod o allu byw gyda gofalwr maeth hirdymor.

Mae agweddau eraill o'r gwasanaeth sydd wedi’u hailwampio yn cynnwys llety â chymorth a chynlluniau byw â chymorth, sy'n helpu pobl ifanc dros 16 mlwydd oed i baratoi i fyw'n annibynnol.

Yn ddiweddar, gwnaethom ailwampio ein gwasanaeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal i greu opsiynau lleoli sy’n fwy hyblyg, ac mae Maple Tree House yn ffurfio rhan bwysig o'r strategaeth hon. Yn y dyfodol, byddwn yn gallu cynnig mwy o leoliadau lleol i blant a phobl ifanc o fewn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n agosach i gartref.

Rydyn ni hefyd yn datblygu cyfleoedd newydd i unigolion sy'n gadael gofal a fydd yn eu helpu i baratoi ar gyfer eu cyfnod pontio i fod yn oedolyn, ac a fydd yn rhoi cymaint o gymorth ag sydd ei angen arnynt i fyw bywyd llwyddiannus ac annibynnol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'i bartneriaid yn ymrwymedig tuag at ddiogelu a gwarchod iechyd, lleisiant a hawliau plant a phobl ifanc leol. Bydd Maple Tree House, Sunnybank a'r gwasanaeth lleoli wedi'i ailwampio yn helpu i gryfhau ein hymdrechion i sicrhau y gall pobl fyw'n rhydd o niwed, trais ac esgeulustod.

Cynghorydd Phil White, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Chwilio A i Y