Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwasanaeth Gwastraff Gardd Kier i ail-ddechrau yn y gwanwyn

Mae disgwyl i'r Gwasanaeth Gwastraff Gardd, sy'n cael ei ariannu'n llawn gan Kier, ail-ddechrau, gyda'r cwmni’n cynnig tanysgrifiad am ddim i rai trigolion ar hap.

Yn dechrau ar ddydd Llun 13 Mawrth tan ddydd Gwener 17 Tachwedd, bydd y gwastraff yn cael ei gasglu bob pythefnos, ar yr un diwrnod â chasgliadau gwastraff cyffredinol.  Bydd y gwasanaeth yn casglu ystod o wastraff gardd, gan gynnwys planhigion, blodau, chwyn, glaswellt, dail a thoriadau o wrychoedd, ac yn costio £46.01 fesul aelwyd, neu £41.73 i bensiynwyr.

Mae’r cyfleuster wedi dod yn fwyfwy poblogaidd, gyda bron i 8,000 o drigolion yn tanysgrifio i’r gwasanaeth yn 2022, yn ogystal â 1300 tunnell o wastraff gardd yn cael ei gasglu i’w gompostio.  Bydd yr unigolion hynny a oedd wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth y llynedd yn cael gwybodaeth gan Kier am y flwyddyn sydd i ddod.

Mae hwn yn wasanaeth gwych, wedi’i gynnig gan ein cwmni partner, Kier. Mae’n hynod gyfleus. Y cwbl sydd angen i drigolion ei wneud yw gosod eu gwastraff gwyrdd y tu allan i’w cartrefi i’w gasglu, ac mae’n ffordd arall o gefnogi’r gymuned hyd eithaf ein gallu.

Rwyf ar ben fy nigon o weld bod nifer cynyddol o aelwydydd yn tanysgrifio i ddefnyddio’r gwasanaeth, sy’n dyst i’r gwaith arbennig mae Kier yn ei wneud wrth gasglu a chompostio gwastraff gwyrdd ledled y fwrdeistref sirol.

Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Os hoffech chi danysgrifio ar gyfer y gwasanaeth, ewch i wefan Kier.

Chwilio A i Y