Gwasanaeth cymorth tai ar gyfer pobl hŷn i barhau
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 30 Tachwedd 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Hafod er mwyn cyflwyno cymorth yn ymwneud â thai i bobl 55 oed a hŷn.
Mae'r awdurdod lleol wedi dyfarnu contract tair blynedd newydd i’r gymdeithas dai er mwyn helpu i gefnogi nifer sy’n tyfu o bobl agored i niwed 55 oed a hŷn, drwy ddatblygu ymatebion arloesol i gwrdd â’r cynnydd yn y galw ac i helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth yn y gymuned ac mewn cynlluniau Gofal Ychwanegol.
Bydd y gwasanaeth hefyd yn darparu dull atal digartrefedd sy’n cynnig cefnogaeth am gyfnod o hyd at 12 wythnos, gyda’r hyblygrwydd i ymestyn hynny yn ôl yr angen.
Bydd cefnogaeth a roddir i’r rhai mewn angen ar sail galw i mewn i hybiau cymunedol, llety dan do neu’r cynlluniau Gofal Ychwanegol yn bennaf. Bydd y gwasanaeth yn ceisio cefnogi rhwng 120-180 o bobl ar unrhyw adeg benodol.
Mae cyfleusterau Gofal Ychwanegol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn galluogi trigolion i fyw o fewn eu fflatiau hunan-gynhaliol eu hunain, sydd wedi’u ffitio gyda’r holl offer sydd ei angen arnynt i gadw’n ddiogel ac yn annibynnol, tra’n cael mynediad i ofal ar y safle yn ôl yr angen hefyd.
Gan weithredu fel sylfaen greiddiol ar gyfer darpariaeth gefnogi, mae cyfleusterau ym Mynydd Cynffig, Tondu a Maesteg yn cynnig ystod o eiddo un a dwy ystafell wely i bobl 50 oed a hŷn yn ogystal ag ystafelloedd gofal preswyl 24 awr.
Eu bwriad yw bod gam yn uwch na gofal o fewn y gymuned a cham yn îs na gofal preswyl.
Mae heneiddio yn broses a all hefyd gynnwys iechyd yn gwaethygu, mwy o ddibyniaeth a phrofedigaeth, Er mwyn dygymod â’r newidiadau hyn a dal i fwynhau bywyd o safon dda, mae angen tai a chymorth ar bobl hŷn sy'n hyblyg, ac yn cymryd eu hanghenion corfforol ac emosiynol i ystyriaeth.
Bydd y gwasanaeth yn parhau i ddarparu cymorth drwy Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn anelu at gefnogi pobl 55 oed a hŷn i aros yn byw yn annibynnol cyn hired â phosib.
Gydag ystod o sesiynau galw i mewn yn cael eu cynnal o fewn cynlluniau dan do, o fewn y gymuned ac o fewn cartrefi pobl, rhoddir y gefnogaeth i unrhyw un, waeth ble maent yn byw na phwy yw perchennog eu cartref.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol
Cyllidir y gwasanaeth gan Grant Cymorth Tai yr awdurdod lleol.