Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn dod i ben ar gyfer 2021

Daeth casgliadau gwastraff gardd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ben ddydd Gwener, 12 Tachwedd.

Ar ôl blwyddyn wedi’i heffeithio gan Covid-19, profwyd cynnydd o 24 y cant mewn aelwydydd a oedd wedi cofrestru pan ail-ddechreuodd y gwasanaeth arferol yn 2021.

Cofrestrodd cyfanswm o 6,381 o aelwydydd eleni, cynnydd ar 5,133 y flwyddyn gynt, a chafodd dros 1,300 tunnell o wastraff gardd ei gasglu ar gyfer compostio.

Bydd trigolion yn medru cofrestru eto ar gyfer 2022 o 1 Rhagfyr cyn i gasgliadau ail-ddechrau ym mis Mawrth 2022. Bydd defnyddwyr presennol yn cael llythyr gan Kier yn ystod yr wythnosau nesaf yn manylu ar fanylion y flwyddyn nesaf.

Mae Kier hefyd yn cynnal cystadleuaeth, gyda 100 o drigolion sy'n cofrestru ar-lein yn cael eu dewis ar hap i dderbyn ad-daliad llawn a gwasanaeth am ddim ar gyfer 2022.

Hoffwn ddiolch i'r trigolion a gymerodd ran yn y gwasanaeth casglu gwastraff gardd eleni.

Rwyf ar ben fy nigon yn gweld bod nifer yr aelwydydd sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn parhau i gynyddu, sy’n dyst i’r gwaith arbennig mae Kier yn ei wneud i gasglu ac i gompostio gwastraff gwyrdd yn y fwrdeistref sirol.

Dirprwy Arweinydd Hywel Williams

Bydd y pris ar gyfer y flwyddyn nesaf yn aros yr un fath, sef £38.91 gyda chonsesiwn o £34.85.

Chwilio A i Y