Gwaith yn mynd rhagddo i fynd i’r afael â llifogydd yng Nghwm Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 09 Chwefror 2022
Mae gwaith yn mynd rhagddo i osod system ddraenio newydd yng Nghwm Ogwr, gyda’r nod o leihau risg posibl o lifogydd.
Bydd y system newydd yn medru ymdopi’n well â llif trwm o ddŵr er mwyn lliniaru'r risg posibl o lifogydd yn y dyfodol, a chynnig gwell diogelwch i dai, ffyrdd ac eiddo ar gyfer trigolion Cwm Ogwr.
Mae’r gwaith yn digwydd ger y llwybr beicio lleol, sy’n golygu bydd rhan o’r llwybr wedi’i gau dros dro i’r cyhoedd oherwydd pryderon diogelwch, nes bydd y gwaith wedi’i gwblhau yng Ngwanwyn 2022.
Mae'r gwaith ar y llwybr beicio yn gysylltiedig â chynllun lliniaru llifogydd i ddiogelu eiddo preswyl ar Commercial Street, Cwm Ogwr. Mae'r geuffos bresennol mewn cyflwr strwythurol gwael, ac roedd yn ffactor a gyfrannodd at y llifogydd a effeithiodd ar eiddo yn ystod stormydd mis Chwefror 2020. Ariennir y cynllun hwn ar y cyd â Llywodraeth Cymru fel rhan o’i rhaglen risg o lifogydd.
Bydd pibell ddŵr arwyneb newydd yn cael ei gosod ar y llwybr beicio, er mwyn lleihau’r risg o lifogydd yn yr ardal a lliniaru’r risg o lifogydd i eiddo preswyl yn y dyfodol.
Nid oes llawer o le ar y llwybr beicio, sy’n golygu y bydd angen cau holl led y llwybr drwy gydol y gwaith adeiladu, yn anffodus.
Bydd cau’r llwybr beicio yn galluogi i’r gwaith adeiladu gael ei gynnal yn ddiogel, gan ddiogelu gweithwyr adeiladu yn ogystal â thrigolion lleol, gan gynnwys rhieni a phlant ysgol, a bydd hefyd yn cyflymu’r gwaith adeiladu.
Mae llwybr amgen ar hyd y brif ffordd wedi’i gynllunio ar gyfer defnyddwyr y llwybr tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo, a bydd map ar gael a fydd yn dangos y llwybr beicio amgen. Bydd rhybuddion ar y llawr yn rhoi gwybod i drigolion am y gwaith, a bydd yr ysgol gyfagos yn rhoi gwybod i ddisgyblion a rhieni wythnos cyn i’r llwybr gau.
Er fy mod yn gwybod y bydd cau'r llwybr dros dro yn anghyfleus ac yn peri trafferth i rai, ni fyddai’r penderfyniad wedi’i wneud oni bai bod y gwaith yn hanfodol.
Mae’r gwaith yn hollbwysig i amddiffynfeydd llifogydd yr ardal, a bydd yn gwella’r system ddraenio’n sylweddol yn ystod cyfnodau o law trwm, a hoffwn ddiolch i’r trigolion lleol am eu dealltwriaeth
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lles a Chenedlaethau Dyfodol