Gwaith yn dechrau ar y cyntaf o bedwar hwb gofal plant newydd werth £2.6m
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 25 Mehefin 2021
Mae'r gwaith wedi dechrau ar y cyntaf o bedwar cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd sbon ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cynhaliwyd seremoni torri tir i ddathlu dechrau'r gwaith adeiladu yn gynharach heddiw (dydd Gwener 25 Mehefin) ar dir oddi ar Ystad Ddiwydiannol Isfryn ym Melin Ifan Ddu.
Wedi'i ddylunio i wasanaethu Cwm Ogwr drwy ddarparu digon o le i gyfanswm o 34 o blant hyd at bump oed, bydd yr hwb gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd yn agored rhwng 7am-7pm.
Ar ôl ei gwblhau, bydd yn cynnwys man chwarae newydd, ystafelloedd tawel, cyfleusterau storio, swyddfeydd a maes parcio gyda lle i hyd at saith cerbyd.
Gyda thirlunio newydd y tu blaen ac ar ochr yr hwb, bydd cyfleusterau chwarae meddal yn cael eu gosod yn ogystal â chanopi i roi cysgodfa i blant.
Mae'r hwb gofal plant newydd ym Melin Ifan Ddu yn symbol o'r buddsoddiad diweddaraf i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Hoffem i'n plant gael y dechrau gorau posibl y gallwn ei ddarparu mewn bywyd, a bydd cyfleusterau modern, newydd fel hwn yn ein cynorthwyo ni i gyflawni hynny.
Mae angen llongyfarch a diolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn ein cynorthwyo ni i gyrraedd y foment allweddol hon - o Lywodraeth Cymru a'r cyngor cymuned lleol i'n contractwyr, timau'r prosiect a dylunio, a sefydliadau megis Menter Bro Ogwr a Grŵp Llywio'r Iaith Gymraeg.
Mae hwn am fod yn gyfleuster rhagorol i bobl Cwm Ogwr, a dyma hefyd fydd y cyntaf o'i fath.
Gan siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Dirprwy Arweinydd Hywel Williams
Ychwanegodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol: "Gyda chynlluniau ar waith i adeiladu rhagor o hybiau ym Metws, Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, dyma fuddsoddiad gwerth £2.6 miliwn yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg, a hoffwn roi cydnabyddiaeth i Lywodraeth Cymru am ddarparu'r cyllid sydd wedi gwneud hyn yn bosibl.
"Pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd yr hwb yma ym Melin Ifan Ddu yn cynnig cyfleuster o'r radd flaenaf a fydd yn gwasanaethu teuluoedd sy'n awyddus i'w plant dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws Cwm Ogwr am genedlaethau lu i ddod.
"Mae hefyd yn dangos ymrwymiad parhaus Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr tuag at gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg yn y fwrdeistref sirol, ac i annog rhagor o dwf yn yr iaith Gymraeg."
Disgwylir i'r gwaith ar hwb gofal plant cyfrwng Cymraeg Melin Ifan Ddu gael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2021.