Gwaith yn dechrau ar glirio safle ar gyfer hwb lleoli ac asesu plant newydd
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 29 Hydref 2021
Bydd gwaith yn dechrau cyn bo hir ar glirio safle adeiladu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn barod ar gyfer datblygiad hwb lleoli ac asesu plant newydd.
Bydd y cyfleuster, sy’n cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru, drwy raglen gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig (ICF), yn dwyn ynghyd ystod o wasanaethau i blant a phobl ifanc. Mae’n cael ei adeiladu ar hen safle ysgol gynradd ym Mrynmenyn.
Bydd y contractwyr, Prichard’s, yn dechrau gweithio ar y safle ar ddydd Llun 1 Tachwedd, yn dinistrio hen adeilad yr ysgol, sydd wedi bod yn wag ers 2018, pan symudodd yr ysgol gyfan i safle newydd o’r radd flaenaf.
Mae disgwyl i’r gwaith o ddymchwel a chlirio’r safle gymryd hyd at 12 wythnos. Rydym yn ymdrechu i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar drigolion lleol a thraffig sy'n mynd heibio, a gan nad oes angen cau unrhyw ffyrdd, nid ydym yn rhagweld unrhyw effaith fawr ar yr ardal leol. Dymchwel yr hen adeilad yw cam cyntaf y prosiect hwn, yn helpu i wneud lle ar gyfer datblygiad yr hwb lleoli ac asesu plant newydd.
Yn rhan o Raglen Gwella Canlyniadau ar gyfer Pobl y cyngor, bydd y datblygiad newydd yn cynnig llety, gofal a gwasanaethau cymorth i blant a phobl ifanc, gan helpu i sicrhau bod y cyngor a’i bartneriaid yn medru parhau i ddiogelu a chefnogi plant a phobl ifanc mewn modd mor effeithiol â phosibl.
Gan ei fod yn cael ei adeiladu’n bwrpasol, bydd yn helpu i wneud y mwyaf o iechyd, diogelwch a llesiant ein plant a'n pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gan ddarparu amgylchedd cyfoes iddynt, a'r staff sy'n gofalu amdanynt, wrth i’r cynlluniau gofal hirdymor mwyaf addas yn cael eu datblygu.
Dywedodd Aelod Cabinet y cyngor dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, Nicole Burnett