Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith yn dechrau ar fesurau diogelwch newydd ar yr A48

Yr wythnos hon, bydd gwaith yn dechrau ar amrywiaeth o welliannau diogelwch newydd ar hyd ffordd yr A48.

Bydd y prosiect, sy'n werth £290,000, ac sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn targedu darn 5 km o'r A48 rhwng Trelales a Thredŵr.

Bydd yna derfyn cyflymder newydd o 50 mya yn lle'r 60 mya sy'n bodoli ar hyn o bryd i gyfeiriad y gorllewin tuag at ystâd Broadlands, a bydd hwn yn parhau hyd at y terfyn o 40 mya ger cylchfan Ewenni.

Mae'r llystyfiant eisoes wedi cael ei glirio er mwyn helpu gwelededd gyrwyr, a bydd mannau croesi i gerddwyr ger cylchfan Broadlands yn cael eu gwella, ynghyd â chroesfannau yn Lôn Heronston.

Bydd gwell goleuadau stryd, ynghyd ag arwyddion ffres yn cynghori gyrwyr i fod yn effro i gerddwyr, yn cael eu gosod mewn mannau allweddol, a bydd troedffordd a llwybr beicio cyfunol, tri metr o led, yn cael ei greu ar y llain rhwng Lôn Heronston a chylchfan Picton Court – llwybr answyddogol ond poblogaidd a ddefnyddir yn rheolaidd gan blant ysgol a thrigolion sy'n byw yng Ngerddi Picton.

Bydd y marciau ffordd presennol yn cael eu haddasu i ddarparu rhanbarth diogel ar gyfer y droedffordd a llwybr beicio cyfunol, a bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 8am a 5:30pm ar fore Sadwrn er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar deithwyr.

Cynlluniwyd y newidiadau hyn i wella tipyn ar ddiogelwch gyrwyr, cerddwyr a beicwyr, a gwnaed hyn yn bosibl trwy gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r gwaith y dilyn adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a ddatgelodd fod 32 o wrthdrawiadau wedi digwydd ar y darn hwn o'r A48 rhwng 2011 a 2015.

Roedd hanner y gwrthdrawiadau hyn yn ‘hergwd o'r cefn’ rhwng cerbydau, ac roedd naw y cant ohonynt rhwng cerbydau a cherddwyr. Arweiniodd tri o'r gwrthdrawiadau at farwolaethau, dosbarthwyd saith yn rhai ‘difrifol’, a 22 yn rhai ‘bach’.

Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau

Ychwanegodd y Cynghorydd Young: “Er i'r astudiaeth ganfod bod cyfradd y gwrthdrawiadau yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer mathau cyfatebol o ffyrdd, digwyddodd naw o'r 32 o wrthdrawiadau yn ystod y nos, digwyddodd chwech yn ystod tywydd gwlyb, ac roedd alcohol, camgymeriad gan y gyrrwr a symudiadau anghyfreithlon hefyd yn ffactorau pwysig.

“Mae'n amlwg bod y gwaith yn angenrheidiol er mwyn helpu i wella diogelwch ar hyd y ffordd brysur hon, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau cyn lleied o anghyfleustra â phosibl wrth i'r prosiect fynd rhagddo.”

Disgwylir i'r gwelliannau i ddiogelwch ar y ffordd gael eu cwblhau erbyn dechrau mis Hydref.

Chwilio A i Y