Gwaith yn cychwyn yn fuan ar gynllun newydd gwerth £6.4m ym Mhorthcawl i amddiffyn rhag llifogydd
Poster information
Posted on: Dydd Llun 29 Mawrth 2021
Mae paratoadau wedi dechrau i gychwyn gwaith ar gynllun newydd gwerth £6.4m fydd yn amddiffyn Porthcawl rhag llifogydd ac unrhyw godiad posib yn lefel y môr yn y dyfodol.
Bydd cam cyntaf y cynllun yn canolbwyntio ar Forglawdd y Gorllewin, ac mae'r arbenigwyr adeiladu yn Knights Brown yn y broses o sefydlu compownd ar dir yn Llyn Halen yn barod i gychwyn y gwaith mis nesaf.
Adeiladwyd Morglawdd y Gorllewin yn yr 1820au a chafodd ei ymestyn yn yr 1860au. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r morglawdd wedi dod yn fyd-enwog ar ôl cael ei gynnwys mewn ffotograffau dramatig sy'n dangos y tonnau enfawr sy'n chwistrellu drosto yn ystod stormydd, llanw uchel a thywydd garw.
Mae strwythur mewnol y morglawdd yn cynnwys ei graidd coed gwreiddiol, ac mae angen gwneud llawer o waith adnewyddu ac adfywio arno i sicrhau ei fod yn gallu parhau i wrthsefyll y llanw a thywydd garw'r môr.
Ynghlwm â'r ail gam a fydd yn cydredeg â'r cyntaf, bydd Knights Brown yn canolbwyntio ar uwchraddio Promenâd y Dwyrain, a adeiladwyd yn wreiddiol yn yr 1860au, a chreu gwell amddiffynfeydd llifogydd rhwng Marina Porthcawl a Thraeth Coney.
Yna bydd y gwaith yn ymestyn i Sandy Bay a chyn belled â Rhych Point, lle bydd amddiffynfeydd llifogydd a gwaith gwarchod twyni yn cael eu huwchraddio.
Ariannwyd y gwaith ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o'r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol.
Mae'r prosiect hwn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol gwerth £6.4m ar gyfer Porthcawl, fydd yn cadw mwy na 500 o gartrefi a thros 170 o fusnesau yn ddiogel rhag y perygl o lifogydd.
Mae'n rhan allweddol o'r seilwaith ar gyfer amddiffyn y dref rhag llifogydd, a bydd hefyd yn helpu i sicrhau datblygiad pellach yn ardal Llyn Halen ym Mhorthcawl.
Yn ogystal â gwarchod eiddo masnachol a phreswyl, mae’r gwaith ar amddiffynfeydd môr newydd yn rhan allweddol o’n cynlluniau adfywio ar gyfer y dref, a byddant yn amddiffyn asedau a seilwaith sy’n werth miliynau o bunnoedd.
Dywedodd Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Cymunedau
Mae'r cynllun amddiffyn newydd rhag llifogydd yn dilyn prosiect llwyddiannus diweddar gwerth £3m a ddisodlodd hen amddiffynfeydd môr ar Draeth y Dref, a sicrhau bod 260 o gartrefi, busnesau ac adeiladau hanesyddol fel Pafiliwn y Grand yn cael eu gwarchod o hyd.
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Knights Brown yn rhannu rhagor o wybodaeth wrth i'r prosiect ddatblygu - cadwch lygad am ragor o fanylion yn fuan.