Gwaith yn cychwyn ar ardd gymunedol yn Nyffryn Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 05 Chwefror 2021
Mae gwaith wedi cychwyn ar ddatblygu gardd gymunedol ar hen safle Canolfan Berwyn yn Nantymoel.
Bydd yr ardd yn cynnwys ardal eistedd, plannu coed brodorol a phlanhigion addurniadol gyda chynlluniau ar y gweill i gynnwys gwaith celf er cof am naid enwog Lynn the Leap yn ychwanegol at dreftadaeth lofaol yr ardal gyda cherflun o löwr yn edrych draw ar Lofa Wyndham.
Fel rhan o'r cynlluniau, mae Cadw Cymru’n Daclus wedi darparu gwerth £25,000 o gyllid ar gyfer creu Coedwig Fechan newydd - prosiect newydd sbon i blannu 1,000 o goed a sefydlu dosbarth awyr agored newydd - wedi’i gyllido gan raglen Coedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru.
Yn y cyfamser bydd grant o £6,800 gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yn mynd tuag at greu cerflun Glowyr a Dram, gan ffurfio rhan o’r dyluniad ym mlaen yr ardd.
Mae tua £120,000 ar gyfer y prosiect ar gael drwy gyllid adfer Covid-19 Gweithlu’r Cymoedd ar gyfer canol trefi, gan ddarparu man cyfarfod awyr agored o fewn Nantymoel.
Dywedodd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Rydym yn falch iawn o weld gwaith ar yr ardd eisoes ar y gweill a gobeithiwn y bydd o werth gwirioneddol i’r gymuned, fel lle i ymlacio a mwynhau’r awyr agored.
”Mae’r cynlluniau wedi bod yn esblygu dros gyfnod o amser gyda nifer o ddigwyddiadau ymgynghori yn cael eu cynnal yn y gymuned yn cynnwys ystod o grwpiau, o’r ysgol gynradd leol a thrigolion i’r grŵp Hanes Dyffryn Ogwr, sy’n goruchwylio’r prosiect.
“Mae Clybiau Merched a Bechgyn Cymru, Datblygiad Estyn Gwledig y cyngor ac ymddiriedolwyr y ganolfan sy’n gyfrifol am y tir wedi bod yn cydweithio er mwyn cyflwyno ceisiadau grant i helpu ariannu’r prosiect.”
Bydd grant pellach gan gronfa adfer Covid-19 Gweithlu’r Cymoedd yn cael ei wario ar safle Golchfa Dyffryn Ogwr gan alluogi gwell seilwaith ar gyfer cerdded, beicio, rhedeg a mathau eraill o weithgaredd corfforol.