Gwaith wedi cychwyn ar gyfleusterau iechyd a gofal cymdeithasol newydd
Poster information
Posted on: Dydd Iau 04 Chwefror 2021
Mae cyfleusterau newydd yn cael eu sefydlu ym Metws, fydd yn cefnogi gwaith tîm iechyd a gofal cymdeithasol integredig y fwrdeistref sirol.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys ychwanegu lefel newydd ar ben to fflat presennol adeilad Trem y Môr, sy'n gartref i dîm adnoddau'r gymuned, a darparu cyfleusterau fydd yn cefnogi gwaith hyfforddi staff sy'n gweithio mewn meysydd megis ail-alluogi, ffisiotherapi, nyrsio, gwaith cymdeithasol a therapi galwedigaethol.
Mae'r prosiect gwerth £435,000, sy'n cael ei ariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Chyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnwys grant gwerth £400,000 gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru.
Bydd y lefel newydd yn cefnogi gwaith staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen drwy ddarparu amgylchedd priodol a man arddangos ar gyfer ystod ehangach o offer teleofal, cymhorthion ac addasiadau i bobl gydag anableddau synhwyraidd a chorfforol, a mwy.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Cynghorydd Nicole Burnett: "Mae gweithio mewn partneriaeth ac integreiddiad agos gyda chydweithwyr mewn iechyd yn rhan allweddol o sut rydym yn darparu gwasanaethau allweddol i bobl leol.
"Mae'r bartneriaeth hon yn ei gwneud hi'n bosib i oedolion fyw bywydau iachach ac annibynnol o fewn eu cartrefi eu hunain, gan sicrhau bod mwy o welyau gofal-eilradd ar gael.
"Rwy'n sicr y bydd y gwaith yn Nhrem y Môr yn ased gwerthfawr tu hwnt yn ein hymdrechion i ddarparu'r lefel orau bosib o gefnogaeth i breswylwyr."