Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith profi am wrthgyrff COVID-19 i ddechrau ar gyfer rhai aelodau o staff iechyd rhanbarthol a staff awdurdodau lleol

Bydd gwaith profi am wrthgyrff COVID-19 yn cael ei gynnal ar gyfer rhai aelodau o staff iechyd a staff awdurdodau lleol yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg erbyn diwedd y mis hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r prawf gwrthgyrff, sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn cael gwybod a yw rhywun wedi cael ei heintio â’r coronafeirws, yn raddol.

Dywedodd Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae'r prawf yn cael ei gynnig i staff er mwyn gweld a ydyn nhw wedi'u heintio â COVID-19 ac i wella ein dealltwriaeth o drosglwyddiad yr haint yng Nghymru.

“Os bydd unigolyn wedi dod i gysylltiad â COVID-19, efallai y bydd wedi datblygu gwrthgyrff ac mae canlyniad positif yn golygu ei fod wedi cael y coronafeirws yn y gorffennol, yn ôl pob tebyg.

“Mae'n bwysig cofio nad yw cael canlyniad positif sy'n canfod gwrthgyrff yn golygu o reidrwydd eich bod yn ddiogel rhag cael eich ail-heintio ac mae'n bosibl y gallech gael eich heintio gan COVID-19 eto. 

“Mae hyn yn golygu bod rhaid dilyn yr holl ganllawiau ynghylch cadw pellter cymdeithasol a hylendid da ac mae'n rhaid trin unrhyw symptomau yn y dyfodol fel haint posibl.”

Yn y lle cyntaf, bydd staff sy'n gweithio mewn adrannau argyfwng, unedau gofal dwys a wardiau COVID-19 ymhlith y rheini sydd mewn ysbytai a fydd yn cael eu profi, a bydd staff mewn ysgolion hefyd yn cael mynediad at y prawf.

Ychwanegodd yr Athro Nnoaham : “Gall gymryd mwy na phythefnos i gael ymateb gwrthgyrff ar ôl dod i gysylltiad â COVID-19. Gallai canlyniad negyddol naill ai olygu nad ydych wedi cael eich heintio neu eich bod o fewn y cyfnod cyn y gallai ymateb gwrthgyrff gael ei gynhyrchu gan eich corff.

“Gallai canlyniad negyddol hefyd olygu y gallech fod wedi cael y coronafeirws ond nad oes gennych wrthgyrff canfyddadwy.”

Chwilio A i Y